Oeddech chi’n gwybod bod modd i chi wylio ffrydiau byw o gyfarfodydd y cyngor wrth iddynt ddigwydd?
Ac os byddwch yn digwydd methu ffrwd fyw, gallwch wylio gweddarllediadau o gyfarfodydd diweddar a dal i fyny’n hawdd.
Pa gyfarfodydd rydym yn eu ffrydio?
Caiff llawer o benderfyniadau allweddol eu gwneud yng nghyfarfodydd y cyngor…am faterion a allai effeithio arnoch chi.
Rydym yn ffrydio ein cyfarfodydd Bwrdd Gweithredol, yn ogystal â’r Cyngor Llawn, Pwyllgor Cynllunio a rhai cyfarfodydd Pwyllgorau Craffu.
Y penderfyniadau diweddaraf wrth iddynt ddigwydd…
Felly os oes gennych ddiddordeb mewn trafodaeth benodol, nid oes angen i chi fynd i Neuadd y Dref. Rhowch eich cyfrifiadur, llechen neu ffôn clyfar ymlaen, i weld beth sy’n digwydd.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw mynd i’n tudalen gweddarlledu ar amser dechrau’r cyfarfod, a chlicio ar y ‘ffrwd fyw’.
Neu gallwch ddal i fyny yn nes ymlaen…
Mae’n syml. Ewch i’r un dudalen i ddal i fyny, gyda chyfarfodydd yn cael eu cadw mewn archif am chwe mis.
Gallwch weld pa gyfarfodydd sydd ar y gweill drwy edrych ar ein gwefan.
Mae’n werth nodi bod gennym eitemau ar ein rhaglen weithiau a rhaid eu trafod yn breifat (mae’r rhesymau dros hyn wedi’u hegluro mewn erthygl ddiweddar arall), felly ni allwn ffilmio’r eitemau hynny.
Ond os oes gennych ddiddordeb mewn gweld sut caiff materion cyhoeddus eu trafod, a sut caiff penderfyniadau eu gwneud, mae’n werth edrych ar-lein.
Mae’n haws nag erioed.
Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL