TRAIS YN ERBYN MERCHED A GENETHOD (VAWG)
Beth ydy VAWG?
Unrhyw drais ar sail rhywedd sydd wedi’i anelu at ferch oherwydd ei bod yn ferch
neu drais sy’n cael ei ddioddef yn anghymesur gan ferched. Mae’r mwyafrif o
VAWG gan ddynion yn erbyn merched a genethod (er gall dynion hefyd ddioddef
trais neu gam-drin).
Mae VAWG yn cwmpasu unrhyw drosedd sy’n effeithio merched a genethod
yn anghymesur. Mae hyn yn cynnwys trais a cham-drin domestig, stelcian
ac aflonyddu, trais ar sail anrhydedd (gan gynnwys priodas orfodol, llurgunio
organau cenhedlu merched a’r hyn a adwaenir fel ‘lladd ar sail anrhydedd’),
treisio ac ymosod rhywiol, a throseddau yn ymwneud â ‘pornograffi’ a ‘thynnu
lluniau dan din’. Y troseddau VAWG sydd fwyaf tebygol o fod yn fynych ynghyd a
bod yn gysylltiedig â’r economi nos ydy troseddau rhywiol gan gynnwys achosion
o ‘sbeicio’, ‘hwtian’ gan achosi aflonyddwch, braw a gofid yn groes i Ddeddf Trefn
Gyhoeddus 1986 ac ymosod.
Mae VAWG yn dod â 11 maes o drais ar sail rhywedd at ei gilydd:
- Trais a Cham-drin Domestig
- Trais Rhywiol
- Masnachu Pobl
- Puteindra
- Camfanteisio Rhywiol
- Llurgunio Organau Cenhedlu Benywod
- Yr hyn a adwaenir yn Drais ar sail ‘Anrhydedd’
- Cam-drin perthnasol i waddol
- Stelcian ac Aflonyddu
- Tynnu lluniau dan din
- Pornograffi Dial
- Trais a Cham-drin Domestig
Gall trais domestig fod yn gorfforol, rhywiol,
emosiynol, ariannol neu’n seicolegol. Mae’n
cynnwys patrwm o ymddygiad rheoledig sy’n
deillio o ddyhead cam-driniwr i gynnal grym
a rheolaeth dros eu cymar neu aelodau o’r
teulu. Nid yw’n cael ei achosi gan broblemau
alcohol neu wylltineb.
Gall trais domestig ddigwydd i unrhyw un
beth bynnag yw eu cefndir cymdeithasol,
oedran, rhywedd, ffydd, ethnigrwydd neu
rywioldeb. - Trais Rhywiol
Mae Trais Rhywiol yn cynnwys treisio a
cham-drin rhywiol. Gall ddigwydd i unrhyw
un a gall cymheiriaid, ffrindiau ac aelodau
o’r teulu fod yn droseddwyr ynghyd â phobl
cwbl ddieithr. Ystyrir unrhyw gyswllt rhywiol
heb ganiatâd yn drais rhywiol ac mae’n
drosedd. Mae hyn yn cynnwys unrhyw
gyffwrdd rhywiol diangen. Gall trais rhywiol
ddigwydd yn unrhyw le. - Masnachu Pobl a Phuteindra
Mae llawer o ferched a genethod yn cael eu
gorfodi neu eu twyllo i werthu rhyw a/neu
barhau i werthu rhyw. Mae masnachu pobl yn
cynnwys recriwtio a chamfanteisio ar ferched
a genethod o dramor ac o fewn y DU at
ddibenion puteindra (neu gaethwasanaeth
domestig). - Camfanteisio Rhywiol
Mae Camfanteisio Rhywiol yn gysylltiedig â
masnachu pobl a phuteindra a bod merched
a genethod yn cael eu camfanteisio’n
rhywiol drwy fasnachu pobl neu buteindra.
Mae camfanteisio rhywiol yn effeithio pobl
o unrhyw oedran, rhywedd, hil, gallu neu
gyfeiriadedd rhywiol. Mae camfanteisio
rhywiol ar blant a phobl ifanc yn weithgarwch
gan unrhyw un sydd gyda grym dros bobl
ifanc ac sy’n ei ddefnyddio er mwyn eu camdrin
yn rhywiol. Gall hyn gynnwys ystod eang o
weithgarwch camfanteisio, o berthynas sydd
i’w gweld yn ‘ganiataol’ a chyfnewid rhyw yn
anffurfiol am sylw, lle i aros, anrhegion neu
sigaréts, i droseddau difrifol a threfnedig.
Mae hefyd yn cynnwys camfanteisio rhywiol
gan gangiau. - Llurgunio Organau Cenhedlu Benywod
Mae Llurgunio / Torri Organau Cenhedlu
Merched yn cynnwys tynnu organau rhywiol
merched yn rhannol neu yn gyfan gwbl neu
anaf arall i organau cenhedlu merched am
resymau anfeddygol.” Mae hon yn drosedd
yn y DU hyd yn oed os ydy’r unigolyn wedi’u
llurgunio dramor. Genethod ifanc sy’n cael y
driniaeth fel arfer, o fabandod i oddeutu 15
mlwydd oed. - Yr hyn a adwaenir yn
Drais ar sail ‘Anrhydedd’
Mae trais ar sail ‘anrhydedd’ neu drosedd
‘anrhydedd’ yn drais a eglurir gan y camdriniwr
fel yn cael ei gyflawni er mwyn
gwarchod neu amddiffyn ‘anrhydedd’ y
teulu/cymuned. Mae merched ifanc yn
fwyaf tebygol o brofi’r math hwn o drais lle
synhwyrir eu bod wedi gweithredu tu allan i
ymddygiad derbyniol gan gynnwys gwisgo
colur, cael cariadon o du allan i’r teulu/
cymuned, beichiogi tu allan i briodas a
gwrthod priodas dan orfod. - Priodas Orfodol
Mae priodi gorfodol yn un lle nad ydy un o’r
pâr neu’r ddau yn caniatáu a heb y gallu i
ganiatáu. Mae priodi gorfodol yn wahanol
i briodas wedi’i threfnu – y gwahaniaeth ydy
bod unigolion yn dewis priodi mewn priodas
wedi’i threfnu hyd yn oed os ydy eu teuluoedd
yn chwarae rôl wrth ganfod eu cymar. - Cam-drin perthnasol i waddol
Gall rhai merched brofi cam-drin gan eu
cymar neu deulu yng nghyfraith am beidio
dod â digon o waddol (arian neu nwyddau)
gyda nhw pan maent yn priodi. - Stelcian ac Aflonyddu
Mae stelcian yn aflonyddu mynych sy’n
achosi braw, gofid neu ddychryn i’r dioddefwr.
Gall gynnwys galwadau ffôn, cyfryngau
cymdeithasol, negeseuon e-bost, negeseuon
testun a llythyrau bygythiol; difrodi eiddo; a
dilyn neu ysbïo ar yr unigolyn. - Tynnu lluniau dan din
Tynnu lluniau dan din ydy pan mae rhywun yn
gosod offer o dan ddillad rhywun arall, gyda’r
bwriad o alluogi eu hunain neu rywun arall i
weld organau cenhedlu / pen ôl / dillad isaf
yr unigolyn mewn amgylchiadau na fyddent
fel arall yn eu gweld. Gwneir hyn er mwyn
boddhad rhywiol neu er mwyn cywilyddio /
dychryn / gofidio’r unigolyn. - Pornograffi Dial
Lluniau neu fideos dadlennol neu gignoeth
rhywiol o rywun wedi’u cyhoeddi ar y
rhyngrwyd, fel arfer gan gyn gymar rhywiol,
heb ganiatâd yr un o dan sylw ac yn achosi
gofid neu embaras iddynt.
Sut i gael cymorth
Rydym yn gwybod y gall fod yn anodd
gofyn a chanfod cymorth. Gall cam-drin
danseilio eich hyder a gwneud i chi deimlo
fel methu gweithredu. Ond mae llawer o
bobl a all gynorthwyo a’ch cynghori chi ar
sut i weithredu sydd orau i chi. Os ydych
yn teimlo eich bod chi neu’ch plant mewn
perygl uniongyrchol, yna eich blaenoriaeth
ddylai cadw eich hun yn ddiogel. Ffoniwch
999 am yr heddlu mewn argyfwng ac
101 mewn digwyddiad difrys. Gall fod yn
ddryslyd a dychrynllyd iawn meddwl am
adael perthynas neu ganfod cymorth am
drais o’r gorffennol gan gymar neu gan eich
teulu ond mae cymorth yno ac fe restri sawl
math o gymorth yn y canllaw hwn. Os ydych
wedi profi unrhyw fath o VAWG, mae cymorth
ledled y bwrdeistref – mae pob math o gamdrin
yn anghywir, ac nid ydych fyth ar fai.
Os ydych yn cael eich cam-drin, cofiwch:
- Nid ydych ar fai am gael eich cam-drin.
- Nid chi ydy’r rheswm mae eich cymar neu
eich teulu yn eich cam-drin chi. - Mae hawl gennych gael eich trin gyda
pharch. - Rydych yn haeddu bywyd diogel a hapus.
- Mae eich plant yn haeddu bywyd diogel a
hapus. - Nid ydych ar eich pen eich hun. Mae yna
bobl sy’n aros i gynorthwyo.
Sut i gynorthwyo eich ffrindiau a’ch teulu
Os ydych yn amau fod rhywun wedi’u camdrin
neu sy’n cael eu cam-drin ar hyn o bryd. - Siaradwch â hi a cheisiwch ei chael i rannu
pethau. - Peidiwch â mynegi barn neu edrych yn
syfrdan. - Cysurwch hi nad hi sydd ar fai am gael ei
cham-drin. - Peidiwch â beirniadu rhywun am aros
gyda cham-driniwr neu am amddiffyn
cam-driniwr. - Os ydych angen cynorthwyo eich ffrind neu
aelod o’r teulu, sicrhewch nad ydy unrhyw
beth rydych yn ei wneud i gynorthwyo yn
eu rhoi mewn perygl o niwed pellach. - Os ydy’r cam-drin gan eu teulu, peidiwch
ag awgrymu cyfryngu (teuluol na
chymunedol) gan y gall hyn arwain at
gam-drin neu risg o niwed pellach. - Cynigiwch gymorth ymarferol – defnydd
o’ch ffôn, ffôn symudol neu gyfeiriad ar
gyfer negeseuon. - Cynorthwywch eich ffrind neu aelod o’ch
teulu i wneud cynllun diogelwch ar gyfer
eu hunain neu eu plant. - Peidiwch ag addo cadw pethau fel
cyfrinach os ydych yn meddwl fod plant
mewn perygl o niwed. - Mae’n bwysig cael cymorth arbenigol i
ddioddefwyr pob math o VAWG ac mae
llinellau cymorth ar gael yn y canllaw hwn.
Peidiwch â bod yn ddiofal gyda
chalonnau pobl a pheidiwch â chymryd
gan bobl sy’n ddiofal gyda’ch calon chi
MAE PERTHYNAS IACH YN GOLYGU EICH BOD CHI A’CH CYMAR YN:
Mwynhau bod gyda’ch gilydd, ond mae rhwydd hynt i chi
wneud yr hyn rydych ei eisiau
Parchus (gan gynnwys yn ddiwylliannol ac yn ysbrydol)
Gwneud dewisiadau cilyddol a theimlo’n gyfartal
Cefnogi ac annog eich gilydd
Cymheiriaid economaidd / ariannol
Dibynadwy a gonest
Cyfathrebu’n dda
MAE CAM-DRIN YN DIGWYDD MEWN PERTHYNAS PAN MAE UN CYMAR YN:
Ynysu eu cymar oddi wrth deulu a rindiau
Amharchus (gan gynnwys yn ddiwylliannol ac yn ysbrydol)
Yn gwirio ôn symudol, negeseuon e-bost neu negeseuon
p reifat eraill cymar heb ganiatâd
Yn rheoli, yn dylanwadu ac nid yw’n berthynas gyfartal
Dim yn cefnogi, yn cam-drin a/neu’n bychanu cymar
Yn anghyfartal yn economaidd – yn rheoli’r arian
Ddim yn ddibynadwy ac yn anonest
Ddim yn cyfathrebu neu ond mewn ordd gas neu fygythiol
Yn pwyso arnoch chi wneud gweithgareddau nad ydych yn gyorddus
yn eu gwneud
Yn feddiangar neu’n genfigennus – yn aml yn gwneud cyhuddiadau ug
Yn cyfyngu eu cymar rhag dilyn eu credoau
Yn gwadu bod eu gweithrediadau’n gam-drin
MAE CAM-DRIN DOMESTIG YN
ANNERBYNIOL. Os ydych yn dioddef
cam-drin domestig, nid chi sydd ar fai
ac nid ydych ar eich pen eich hun. Mae
cymorth a chefnogaeth ar gael.
GWASANAETHAU CYMORTH LLEOL A CHENEDLAETHOL:
- BAWSO (Black Association Women Step Out): 0800 7318 147
Mae BAWSO yn cynorthwyo pobl o gefndiroedd Du ac Ethnig Lleiafrifol a effeithir
gan gam-drin domestig a ffurfiau eraill o gam-drin. Mae hyn yn cynnwys llurgunio
organau cenhedlu merched (FGM), priodasau gorfodol, masnachu pobl a phuteindra. - Childline: 0800 1111
Mae cwnselwyr Childline ar radffôn yma i dderbyn galwadau ddydd a nos, 7 diwrnod
yr wythnos gan blant a phobl ifanc o dan 19 oed. - Choose2Change: 0300 003 2340 / enquiries.cymru@relate.org.uk
Gwasanaeth sy’n cynorthwyo dynion sy’n cam-drin ac sydd eisiau newid y ffordd maent
yn ymddwyn eu perthynas ac sy’n cynnig cymorth i’w cymar yn ystod y cyfnod hwn. - Cyfraith Clare: www.clares-law.com/
Fe’i hadwaenir hefyd fel y Cynllun Dadlennu Trais Domestig. Mae’n bolisi heddlu yn
rhoi’r hawl i chi wybod os oes gan eich cymar orffennol o gam-drin. - Crimestoppers: 0800 555 111
Elusen annibynnol yn y DU yn derbyn gwybodaeth am drosedd yn anhysbys. - Dasu: www.dasunorthwales.co.uk/
Mae DASU yn cynnig ymyriadau cydlynol ac wedi’u targedu proffesiynol i bobl sy’n
dioddef cam-drin domestig ledled siroedd Conwy, Dinbych, Y Fflint a Wrecsam. - Dewis Cymru: www.dewis.wales
Eich siop un stop ar gyfer gwasanaethau lleol sydd ar gael i chi. - Galop: 0800 999 5428
Rydym yn cynorthwyo pobl LHDT+ sydd wedi profi cam-drin a thrais. - GISDA: www.gisda.org
Mae GISDA yn elusen sy’n rhoi cymorth dwys a chyfleoedd i bobl ifanc yn byw yng
ngogledd Cymru. - Gorwel: 0300 111 2121
Rydym yn uned fusnes o fewn cymdeithas dai Grŵp Cynefin sy’n darparu
gwasanaethau o ansawdd er mwyn cynorthwyo pobl sy’n dioddef cam-drin domestig.
Rydym yn cydweithredu gydag unigolion a theuluoedd, gan gynnwys tenantiaid o
Grŵp Cynefin, o fewn pedair sir Gogledd Cymru. - Llinell Gymorth Hourglass: 0808 8088 141
Mae Hourglass yn gweithio er mwyn herio ac atal cam-drin pobl hŷn, drwy ddarparu
gwasanaethau a hyfforddiant.
Karma Nirvana: 0800 5999 247
Yn cynorthwyo dioddefwyr troseddau anrhydedd a phriodasau gorfodol.
- MATCHMothers: www.matchmothers.org/
Mae MATCHmothers yn elusen sy’n cynnig cymorth a gwybodaeth ac anfeirniadol i
famau ar wahân i’w plant mewn amrywiaeth eang o amgylchiadau. - Llinell Gymorth Cyngor i Ddynion: 0808 8010 327
Yn rhoi cyngor domestig i ddynion. - Llinell Gymorth Stelcio Cenedlaethol: 0808 802 0300
Yma er mwyn lleihau’r risg o drais ac ymosodiad drwy ymgyrch, addysg a chymorth. - Heddlu Gogledd Cymru: www.northwales.police.uk/
Os ydych wedi dioddef neu’n gweld digwyddiad, hysbysu am faterion difrys drwy
ein cyfleuster ar-lein neu 101 / 0300 330 0101 neu mewn argyfwng, ffoniwch 999. - Canolfan Cymorth Trais a Cham-drin Rhywiol (RASASC): 01248 670 628
Mae ein llinell gymorth gyfrinachol yn rhoi gwybodaeth a chymorth emosiynol i
oroeswyr treisio neu gam-drin rhywiol, a phobl sy’n cynorthwyo goroeswr. - Relate: www.relate.org.uk / 0300 003 2340 / enquiries.cymru@relate.org.uk
Mae gwasanaethau Relate yma i gynorthwyo cryfhau cysylltiadau ledled Cymru, drwy
gwnsela unigolion, parau, teuluoedd neu bobl ifanc. Boed eich bod yn byw ar eich
pen eich hun, neu mewn perthynas, LHDTQRh+ neu’n ddi-fonogamaidd, rydym yma i
gynorthwyo. - Llinell gymorth RESPECT: 0808 8024 040
A oes gennych bryderon am eich ymddygiad tuag at eich cymar ac eisiau stopio? - Y Samariaid: Rhadffôn 116 123
Gwasanaeth gwrando 24 awr. - Stepping Stones: 01978 352 717
Mae Stepping Stones yn cynnig cymorth a gwasanaeth cwnsela proffesiynol i
oedolion a gafodd eu cam-drin yn rhywiol pan oeddent yn blant. - STOPCE: 01332 585371
Mae ein rhwydwaith yn cysylltu gweithwyr proffesiynol sydd ynghlwm mewn creu’r
ymateb gorau i blant a phobl ifanc a’u teuluoedd sydd wedi dioddef camfanteisio yn
ystod plentyndod. - Canolfan Cymorth i Ddioddefwyr Gogledd Cymru: 0300 30 30 159
Yn rhoi cymorth i ddioddefwyr trosedd. - Y Rhuban Gwyn: www.whiteribbon.org.uk
Y Rhuban Gwyn ydy’r brif elusen sy’n ceisio cael dynion a bechgyn i ddod â thrais yn
erbyn merched a genethod i ben. - Cymorth i Ferched Cymru – Llinell Gymorth Byw Heb Ofn: 0808 80 10 800
Yn darparu gwasanaeth llinell gymorth gwybodaeth a chyfeirio rhadffôn dwyieithog
dydd a nos i ferched, dynion a phlant sy’n profi cam-drin domestig neu drais rhywiol.
BETH YDY RHEOLAETH ORFODOL?
Rheolaeth orfodol ydy patrwm cyson o ymddygiad rheolaethol, gorfodol a
bygythiol gan gynnwys pob math neu rai mathau o gam-drin domestig
(emosiynol, cororol, ariannol, rhywiol gan gynnwys bygythiadau) gan gariad,
cymar, gwr/gwraig neu gyn-gymar. Mae’n rhwydo merched mewn perthynas
ac yn gwneud hi’n amhosibl neu’n beryglus gadael.
Gall hyn gael eaith ddifrifol gan gynnwys ofn trais, achosi dychryn a gofid
difrifol a gall arwain at ferch yn ildio ei gwaith, yn newid ei harferion a cholli
cysylltiad gyda theulu a rindiau. Gall rheolaeth orfodol ddifrodi lles
cororol ac emosiynol merch.
ADNABOD YR ARWYDDION
Mae ateb ydw / ydy i unrhyw un o’r cwestiynau canlynol yn gallu
eich cynorthwyo chi adnabod arwyddion o reolaeth orfodol.
A ydych yn teimlo eich
bod yn cael eich ynysu
o’ch rindiau a’ch teulu?
A ydynt yn eich amddifadu
o anghenion bob dydd
sylfaenol fel bwyd,
trydan a gwres?
A ydych yn meddwl eu
bod yn monitro eich
gweithgarwch ar-lein,
neu wedi gosod ysbïwedd
ar eich ôn, gliniadur neu
unrhyw declyn arall?
A ydynt yn rheoli agweddau
o’ch bywyd bob dydd, fel ble
gallwch fynd, pwy allech
weld, beth i’w wisgo, pryd
i fod adref a phryd allwch
gysgu?
A ydynt yn eich rhwystro
chi rhag cael cymorth gan
wasanaethau, fel cymorth
neu wasanaethau meddygol?
A ydynt yn eich bychanu
o hyd ac yn dweud
eich bod yn ddiwerth?
A ydynt yn bygwth datgelu
neu gyhoeddi gwybodaeth
breifat amdanoch chi, fel
lluniau a fideos preifat
ar-lein?
A ydynt yn gorfodi rheolau
a gweithgaredd sy’n eich
bychanu, eich israddio
neu’ch dad-ddyneiddio chi?
A ydynt yn eich gorfodi
chi i gymryd rhan mewn
gweithgarwch troseddol
fel dwyn o siopau?
A ydynt yn rheoli’r arian
ac yn eich atal rhag
gweithio a chael eich
arian eich hun?
RHEOLAU