Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi’n chwilio am swydd? Efallai bod gennym ni’r swydd ddelfrydol i chi…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ydych chi’n chwilio am swydd? Efallai bod gennym ni’r swydd ddelfrydol i chi…
Busnes ac addysgY cyngor

Ydych chi’n chwilio am swydd? Efallai bod gennym ni’r swydd ddelfrydol i chi…

Diweddarwyd diwethaf: 2017/08/03 at 3:37 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Ydych chi’n chwilio am swydd? Efallai bod gennym ni’r swydd ddelfrydol i chi...
RHANNU

Ar hyn o bryd mae Gwasanaeth Atgyweiriadau Tai Cyngor Wrecsam yn recriwtio gweithwyr adeiladu cymwys mewn sawl crefft wahanol, gan gynnwys plastrwyr, plymwyr nwy a llafurwyr.

Cynnwys
Mae’r Tîm o fewn y gwasanaeth yn sicr yn un ardderchog i fod yn rhan ohono“Rwy’n cael gweithio ar brosiectau gwahanol mewn eiddo gwahanol ledled y Fwrdeistref Sirol…”

Mae’r Gwasanaeth Atgyweiriadau Tai Ymatebol yn rhan o Adran Economi a Thai Cyngor Wrecsam ac mae’r gwasanaeth hwn yn cyflawni gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar dai’r Cyngor.

Mae’r Tîm o fewn y gwasanaeth yn sicr yn un ardderchog i fod yn rhan ohono

Gyda 11,200 eiddo i’w cynnal a’u cadw ac oddeutu 1000 eiddo gwag i’w codi i safon y gellir eu gosod bob blwyddyn ar draws y fwrdeistref sirol, mae’r Gwasanaeth Atgyweirio Tai yn hynod brysur, ymatebol ac amrywiol ac mae’r Tîm o fewn y gwasanaeth yn sicr yn un ardderchog i fod yn rhan ohono.

Mae’r swyddi hyn â thelerau ac amodau da iawn, megis gweithio hyblyg, 23 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn awdurdod lleol a chyflog misol gwarantedig, mae’r swyddi’n sicr yn werth eu hystyried.

Efallai y bydd cyfleoedd ar gael i hyfforddi ymhellach ac ennill rhagor o gymwysterau fel rhan o’r swydd.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

“Rwy’n cael gweithio ar brosiectau gwahanol mewn eiddo gwahanol ledled y Fwrdeistref Sirol…”

Isod, mae saer, a gafodd ei recriwtio’n ddiweddar, yn egluro pam ei fod yn mwynhau gweithio i’r Gwasanaeth Atgyweiriadau:

“Mae fy swydd yn cynnwys ymweld ag eiddo’r cyngor ac mae’n rhaid i mi fynd i’r afael â phob math o waith coed, megis gwneud drysau, fframiau, cloeon, ffenestri, grisiau a gosod ceginau mewn eiddo gwag. Ymgeisiais am swydd gyda’r Cyngor oherwydd bod ganddo enw da ac roeddwn hefyd yn ymwybodol ei fod yn sefydliad o safon a byddwn yn cael cyfle i ddysgu mwy o sgiliau a hybu fy rhagolygon gyrfa. Mae’n dîm da iawn i weithio iddo. Mae awyrgylch gwaith da yna ac rwyf wir yn mwynhau’r amrywiaeth. Rwy’n cael gweithio ar brosiectau gwahanol mewn eiddo gwahanol ledled y Fwrdeistref Sirol ac felly mae’r swydd bob amser yn ddifyr.”

Dywedodd yr Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Mae nifer o gyfleoedd gwaith ar gael ar hyn o bryd. Mae hwn yn gyfle i weithio â thîm prysur a phrofiadol a bydd posibilrwydd o hyfforddiant pellach a chymwysterau i’w hennill yn y dyfodol, felly, byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y gwaith i edrych ar hysbysebion swyddi’r cyngor a chyflwyno ei gais cyn gynted â phosib.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Cyngor i weld y swyddi gwag sydd ar gael.

Get instant news and info from Wrexham Council with a MyUpdates.

Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Grwpiau chwaraeon – manteisiwch ar y rownd nesaf o gyllid o’r Gist Gymunedol! Grwpiau chwaraeon – manteisiwch ar y rownd nesaf o gyllid o’r Gist Gymunedol!
Erthygl nesaf Helpwch i amddiffyn rhai sy’n agored i niwed rhag masnachwyr twyllodrus – mwy o wybodaeth yma Helpwch i amddiffyn rhai sy’n agored i niwed rhag masnachwyr twyllodrus – mwy o wybodaeth yma

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg Awst 14, 2025
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle Awst 13, 2025
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 13, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A

Awst 14, 2025
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor

Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan

Awst 13, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 12, 2025
Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English