Siwrnai ddysgu cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol am ddim…
Ydych chi’n gwybod beth ydi Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol a pham ei fod yn bwysig?
Ydych chi’n ystyried sut i gynnwys Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol yn eich busnes chi? Hoffech chi ddysgu gan fusnes sydd eisoes wedi dechrau ei siwrnai’n llwyddiannus?
Os felly, rydym ni’n falch o allu gwahodd busnesau i ddigwyddiad arbennig am ddim ar Gyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae’r siwrnai ddysgu yn cael ei chynnal gan Aico, arweinydd ym Marchnad Diogelwch Cartref Ewropeaidd a sefydlwyd yn y DU, sydd yn arloesi technolegau newydd, ac yn cynnig larymau o safon uchel. Cynhelir y digwyddiad yng nghyfleuster Aico yng Nghroesoswallt ar 12 Medi 2024 rhwng 10am – 1pm.
Bydd Siwrnai Ddysgu Wrecsam yn cynnwys:
- Cludiant ar fws am ddim o ystâd ddiwydiannol Wrecsam i gyfleuster Aico yng Nghroesoswallt.
- Y cyfle i ddysgu am siwrnai Aico, clywed sut mae gwerthoedd y busnes wedi cael eu cynnwys yn yr hyn maen nhw’n ei wneud a pha mor bwysig ydi cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol iddyn nhw.
- Taith o amgylch y cyfleuster i helpu i ddysgu am weithredoedd busnes Aico o ddydd i ddydd.
- Lluniaeth ysgafn amser cinio gan roi cyfle i’r rhai sy’n bresennol i rwydweithio gyda Mentrau Cymdeithasol yn ogystal â busnesau.
Mae hwn yn gyfle gwych i rwydweithio gyda busnesau sydd wedi’u lleoli ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam sydd yn ystyried cynnwys Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol yn rhan o’u busnes.
Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi, Busnes a Thwristiaeth Cyngor Wrecsam: “Dyma gyfle gwych i fusnesau yn y fwrdeistref sirol i ddysgu mwy am Gyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol.
“Bydd y siwrnai ddysgu yn rhoi cipolwg hynod ddifyr ar weithrediadau dydd i ddydd a sut mae gwerthoedd wedi’u sefydlu, eu datblygu, eu gweithredu a’u cynnal; a rhannu’r arferion gorau gyda’r rhai sy’n bresennol, y gellir eu cymryd o’r cyfarfod a’u defnyddio’n lleol.”
Mae llefydd yn brin, ac os hoffech chi ymuno â ni, e-bostiwch Tîm Busnes a Buddsoddi.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Dyrchafu eich Busnes yn Wrecsam 2024 – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 27 Medi