Yma yng Nghyngor Wrecsam, mae’r ffordd rydym ni’n rhyngweithio â’r cyhoedd yn hynod o bwysig.
Mae gan ein staff sgiliau pobl ardderchog ac maent bob amser yn trin pawb fel unigolyn. Maent yn gwneud i gwsmeriaid deimlo’n gartrefol ac yn ymddwyn yn broffesiynol bob tro.
Ydi hyn yn swnio’n debyg i chi?
Os ydi, a’ch bod chi’n chwilio am gyfle newydd, yna gwrandewch… efallai mai rŵan ydi’r amser perffaith i chi ddechrau ar antur newydd.
Mae gennym ni ddwy swydd Ymgynghorydd Cyswllt wag yn ein Hadran Gofal Cymdeithasol i Oedolion (un llawn amser barhaol ac un rhan-amser dros gyfnod mamolaeth).
Mae’r swyddi hyn wedi eu lleoli yn Adeiladau’r Goron ar Stryt Caer, ac yn cynnwys delio â’r cyhoedd, defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, gofalwyr ac unigolion eraill.
Gall hyn fod dros y ffôn, drwy e-bost, llythyrau neu wyneb yn wyneb.
Oes gennych chi ddiddordeb?
Mae yna un neu ddau o sgiliau fydd arnoch chi eu hangen i wneud y swydd…
Dylech fod â phrofiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft Office ac, yn bwysicach oll, dylech feddu ar sgiliau rhifedd, trefnu a chyfathrebu da, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Felly, os ydych chi’n hoff o weithio gyda phobl a rhoi sylw i fanylion, cysylltwch â ni 🙂
I weld y swydd-ddisgrifiad lawn ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen isod.
Y dyddiad cau ar gyfer y ddwy swydd yw dydd Gwener 15 Chwefror.
Gwych … Ddangoswch y SWYDD Na… Dw i’n iawn ddiolch