Dros y misoedd diwethaf, mae arian a sicrhawyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, Cronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, y Gronfa Strydoedd Saffach a’r Gronfa Teithio Llesol wedi ein galluogi i wneud y Stryd Fawr a Chanol Dinas Wrecsam yn fwy deniadol a chyfeillgar i gerddwyr.
Fel rhan o’r gwelliannau hyn, o ddydd Llun 14 Ebrill, bydd un pwynt mynediad yn unig i ganol y ddinas.
Bydd hwn ar hyd Stryt Yorke gyda mynediad rhwng 6am a 11.30am bob dydd.
Bydd bolard sy’n codi a disgyn yn gwahardd mynediad rhwng 11.30am a 6.00am ar gyfer pob cerbyd, ac eithrio’r rhai ar restr gymeradwyo awtomatig. *Bydd camera ARhCA yn cael ei ddefnyddio i adnabod cerbydau sydd wedi’u cofrestru ar y rhestr.
Bydd yn ofynnol i gerbydau adael canol y ddinas erbyn 11.30am oni bai eu bod yn cael caniatâd penodol i barcio. Bydd methu â gwneud hynny yn gadael y gyrrwr yn atebol i gael Hysbysiad Tâl Cosb.
Manylion pellach a Chwestiynau Cyffredin ar gael ar ein gwefan
Dywedodd Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, y Cynghorydd Nigel Williams, “Mae sicrhau arian o’r gwahanol ffynonellau wedi golygu ein bod wedi gallu buddsoddi swm sylweddol o arian ar welliannau i ardal gyhoeddus y Stryd Fawr.
“Fel unrhyw brosiect sylweddol o’r maint hwn, mae tarfu wedi’i achosi, ond rydym bob amser wedi ceisio lleihau’r tarfu cymaint â phosibl.
“Bydd angen i yrwyr ddeall a chadw at y rheolau newydd er mwyn cadw’r Stryd Fawr a Chanol Dinas Wrecsam yn gyrchfan gyfeillgar i gerddwyr.
“Gyda disgwyl i elfennau olaf y gwaith trawsnewid gael eu cwblhau dros yr wythnosau nesaf, rydw i’n edrych ymlaen at weld sut bydd yr ardal yn elwa o’r gwelliannau.”