Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi’n mwynhau moduro oddi ar y ffordd? Darllenwch fwy…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ydych chi’n mwynhau moduro oddi ar y ffordd? Darllenwch fwy…
ArallPobl a lleY cyngor

Ydych chi’n mwynhau moduro oddi ar y ffordd? Darllenwch fwy…

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 16, 2019 2:07 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Off Roading
RHANNU

Wrth i’r dyddiau gynhesu a’r nosweithiau ymestyn mae llawer ohonom yn edrych ymlaen at gael bod allan mwy a bod yn brysurach yn gyffredinol.

Mae rhai yn mwynhau gweithgareddau mwy eithafol fel gyrru cerbydau 4×4 oddi ar y ffordd, rasio beiciau cwad a moto X ac ati, ac yn cael pleser o wneud hynny. Ond cofiwch, os ydych yn mwynhau y math yma o weithgareddau, bod rhai digwyddiadau a hysbysebir yn anghyfreithlon ac mae’n bosibl iddynt achosi difrod aruthrol i’n cefn gwlad 🙁

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

Mae sefyllfaoedd tebyg yn codi ledled y DU ac nid yw Wrecsam yn eithriad ond rydym yn dod yn fwyfwy pryderus am y difrod sy’n cael ei wneud i fywyd gwyllt mewn rhai coetiroedd dynodedig sy’n destun gwarchodaeth statudol ar ffurf Gorchymyn Diogelu Coed.

Mae Gorchymyn Diogelu Coed yn golygu y gallai unrhyw un sy’n cael ei ddal yn difrodi, tocio, torri neu ddinistrio coed mewn coetir yn fwriadol ac heb ganiatâd blaenorol gan y cyngor, fod yn agored i erlyniad troseddol. Mae cwmpas Gorchymyn Cadw Coed yn ymestyn o goed ifanc bach i hen goed hynod.

Bydd ardaloedd o amgylch y fwrdeistref sirol yn cael eu monitro dros yr wythnosau nesaf a byddwn yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau bod ein coetiroedd gwarchodedig yn cael eu parchu a bod gweithgareddau oddi ar y ffordd yn cadw at y ddeddfwriaeth berthnasol.

Os hoffech fwy o gyngor am Orchmynion Cadw Coed neu drafod statws gwarchodedig coetir benodol, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 01978 298994, e-bostiwch planning@wrexham.gov.uk neu ewch i www.wrexham.gov.uk/trees.

Felly byddwch yn ofalus – mwynhewch eich gweithgareddau moduro oddi ar y ffordd ond byddwch yn ystyriol o’r ardal yr ydych yn gyrru ynddi a gofynnwch i chi’ch hun “a ddylwn i fod yma?”

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwaith Ffordd Dros Nos i Achosi Cyn lleied o Amhariad â Phosib Gwaith Ffordd Dros Nos i Achosi Cyn lleied o Amhariad â Phosib
Erthygl nesaf Waste Dim Newidiadau i Gasgliadau Bin dros Gyfnod y Pasg

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English