Os felly, efallai y byddai gennych ddiddordeb mewn llenwi arolwg i wybod sut mae ein haeddfedrwydd digidol yn cymharu â busnesau eraill yng Nghymru.
Mae Cymru fel y mwyafrif o wledydd eraill, yn mynd trwy gyfnod o drawsnewid yn gyflym, ac mae technolegau digidol yn chwarae rhan ganolog ym myd busnes ac mewn cymdeithas. Mae tystiolaeth o Arolygon Aeddfedrwydd Digidol blaenorol yn dangos fod 52% o fusnesau bach a chanolig wedi defnyddio band eang cyflym iawn i gynyddu elw.
Mae’r Arolwg Aeddfedrwydd Digidol yn mesur y defnydd o dechnoleg ddigidol ym musnesau bach a chanolig Cymru er mwyn deall y newid dros amser. Gwahoddir chi i gymryd rhan drwy lenwi’r arolwg.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Bydd pob busnes sy’n llenwi’r arolwg yn derbyn copi o’u Sgôr Aeddfedrwydd Digidol*, wedi’i feincnodi yn erbyn eraill yng Nghymru. Drwy gymryd rhan byddwch hefyd yn helpu i greu darlun o’r economi ddigidol yng Nghymru, a helpu Llywodraeth Cymru a phartneriaid i gefnogi ei ddatblygiad.
Gallwch gymryd rhan yma.
Am fwy o wybodaeth gallwch gysylltu â: superfast@cardiff.ac.uk
* Rhowch eich cyfeiriad e-bost a bydd y sgôr aeddfedrwydd digidol ar gyfer eich busnes yn cael ei anfon ar ddechrau 2020.
Mae’r arolwg yn cael ei gynnal gan Uned Ymchwil i Economi Cymru yn Ysgol Fusnes Caerdydd ac yn cael ei ariannu gan Brifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN