O’r wythnos nesaf ymlaen, bydd gwaith peirianneg helaeth yn cael ei wneud yng nghanolfan ailgylchu Plas Madoc i uwchraddio’r safle. Rydym yn disgwyl i’r gwaith hwn gymryd tua saith wythnos i’w gwblhau.
Rydym yn falch o roi gwybod i chi y bydd trigolion Wrecsam yn dal i allu ymweld â’r cyfleuster yn ystod y cyfnod hwn, ond er mwyn helpu i gadw pawb yn ddiogel rydym wedi cyflwyno system archebu dros dro sy’n gofyn i chi archebu eich ymweliad nesaf ymlaen llaw.
Sut i archebu eich ymweliad nesaf
Gallwch archebu eich ymweliad nesaf yn hawdd drwy lenwi’r ffurflen ar-lein ar ein gwefan – www.wrecsam.gov.uk/ArchebuPlasMadoc
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Tra bod y gwaith yn digwydd – er mwyn cadw mynediad yn ddiogel ac yn llyfn – bydd angen i chi archebu slot amser i ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc.
“Pan gyrhaeddwch, dangoswch eich e-bost cadarnhau archeb i’n staff ar eich ffôn clyfar. Gall trigolion nad oes ganddynt ffôn clyfar ddod â phrint o’ch cadarnhad yn lle hynny, ond ceisiwch osgoi hyn os yn bosibl.”
Rhai pethau pwysig i’w nodi:
• Yn anffodus, ni fydd y safle’n gallu derbyn teiars, pridd na rwbel yn ystod y cyfnod hwn (fodd bynnag, gallwch fynd â’r rhain i’n canolfannau ailgylchu eraill yn Bryn Lane a Brymbo)
• Bydd angen i drigolion ddarparu prawf o hyd eu bod yn byw yn y fwrdeistref sirol (megis bil cyfleustodau gyda’u cyfeiriad arno)
• Bydd yn dal yn bosibl casglu cynwysyddion ailgylchu wedi’u harchebu ymlaen llaw, leininau compostiadwy a sachau glas
• Y slot amser hwyraf y gallwch ei archebu yw 15 munud cyn amser cau
• Ni fydd trigolion Sir Ddinbych yn gallu defnyddio’r safle dros dro, ond gallant ddefnyddio canolfan ailgylchu Bryn Lane yn lle hynny
Angen help i archebu?
Gall unrhyw drigolion sydd eisiau rhywfaint o gymorth i archebu eu slot amser ymweld â Chyswllt Wrecsam sydd wedi’i leoli yn Llyfrgell Wrecsam, neu ffonio 01978 298989 a bydd ein staff yn gallu eich helpu trwy’r broses.
Nodyn atgoffa oriau agor
Fel bob amser, ym mis Medi, bydd canolfannau ailgylchu Plas Madoc a Brymbo (Y Lodge) yn cau’n gynharach am 6pm.
Nid yw canolfan ailgylchu Bryn Lane yn newid ei horiau agor ac mae’n cau am 8pm drwy gydol y flwyddyn.
Gallwch gael manylion llawn oriau agor ein canolfan ailgylchu ar ein gwefan. – Canolfan ailgylchu gwastraff y cartref | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam