Nid yw’r rhan fwyaf ohonom yn tipio’n anghyfreithlon. Ond, yn anffodus, mae yna lond llaw o bobl hunanol sy’n parhau i wastraffu arian ac adnoddau cyhoeddus…
Mae Cyngor Wrecsam wedi estyn ergyd i’r bobl hunanol hynny sy’n gadael sbwriel ar dir cyhoeddus.
Yr wythnos ddiwethaf bu’n rhaid i weithwyr y Cyngor glirio pren, rwbel a deunyddiau eraill a dipiwyd yn anghyfreithlon ar Lôn Springfield ym Merffordd.
Yn ogystal â risgiau i ddiogelwch a difetha edrychiad cymunedau, mae tipio anghyfreithlon yn golygu bod yn rhaid i ni wyro adnoddau cyhoeddus gwerthfawr i’w glirio… sydd wedi’u talu amdanynt gydag arian cyhoeddus.
Roedd y gwaith clirio ar Lôn Springfield yn cynnwys lori gyda chyfarpar codi, tîm ysgubo ffyrdd a threfniadau rheoli traffig i ddiogelu pawb.
Fodd bynnag, mae gan y Cyngor swyddogion gorfodi a chamerâu i helpu i adnabod y rheiny sy’n tipio’n anghyfreithlon, a dyma rybudd difrifol i unrhyw gyflawnwr: ‘rydym ni’n mynd i’ch dal’.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Gadael trethdalwyr i ysgwyddo’r gost
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Roedd hon yn weithred warthus a bwriadol o dipio anghyfreithlon lle’r oedd yr unigolion yn meddwl bod modd iddyn nhw dipio’r sbwriel yma a gadael i’r trethdalwyr ysgwyddo’r gost.
“Roedd y gwaith clirio yn golygu trefnu ein criwiau ar adeg pan oedd ganddyn nhw waith pwysicach i’w wneud.
“Rydw i wedi gofyn i’n swyddogion pryd yr adroddwyd am y digwyddiad, ac a oes modd i ni gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru i weld a oes modd i ni adnabod unrhyw gerbyd a welwyd yn yr ardal.
“Ein neges i’r bobl sy’n difwyno ein cymunedau yw ‘gwaredwch eich sbwriel yn gywir…. neu, fel arall, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch dal a’ch dirwyo a, os yn briodol, eich erlyn drwy’r llysoedd.’”
Mae enghreifftiau eraill o dipio anghyfreithlon yn ystod y dyddiau diwethaf yn cynnwys:
- Rwbel adeiladu yn rhwystro Stryt y Byddyn yn New Broughton.
- Soffa ar droedffordd ger Melin y Brenin.
- Popty wedi’i adael ar Lôn Llys Borras.
- Sawl llwyth o wastraff adeiladu ar hyd Ffordd Hafod, Hafod y Bwch i Old Sontley Cottages, a Phont Sonlli i groesffyrdd Gyfelia.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH