Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Yn chwilio am swydd newydd neu newid mewn cyfeiriad?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Yn chwilio am swydd newydd neu newid mewn cyfeiriad?
Y cyngor

Yn chwilio am swydd newydd neu newid mewn cyfeiriad?

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 6, 2021 1:38 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
We Care Wales
RHANNU

Os ydych chi’n chwilio am swydd newydd, neu newid mewn cyfeiriad, yna hoffai Gofalwn Cymru eich gwahodd i ymuno â nhw yn eu digwyddiad ar-lein sy’n arddangos byd gofal a’r cyfleoedd ar gael sy’n camu i mewn i’r proffesiwn gofal.

Cynnwys
  • Mae angen gofal ar bobl ledled Wrecsam rŵan
  • Gall gofalwr wneud gwahaniaeth enfawr

Caiff ei gynnal ddydd Mawrth, 12 Hydref rhwng 10am ac 11am, ac mae’r digwyddiad am ddim.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys:

  • Trosolwg o fyd gofal,
  • Beth sydd ar gael yn eich ardal rŵan.
  • Profiad personol o sut beth yw gweithio mewn gofal gan Lysgennad Gofalwn
  • Cipolwg ar ba adnoddau sydd gan Gofalwn Cymru i’w cynnig.

Gallwch gofrestru i gymryd rhan yma.

Mae angen gofal ar bobl ledled Wrecsam rŵan

Ar hyn o bryd, mae pobl yn Wrecsam yn aros i ofalwyr gael eu recriwtio i’w helpu i fyw’n annibynnol o ddydd i ddydd.

Mae hynny’n golygu bod swyddi ar gael sy’n hyblyg, yn cyd-fynd â’r teulu ac amgylchiadau, ac mae’n rhoi boddhad mawr.

Gall gofalwr wneud gwahaniaeth enfawr

Rhoddir gofal yn uniongyrchol i unigolion mewn amrywiaeth o leoliadau, o gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain gyda thasgau o ddydd i ddydd, i fynd gydag unigolion i ganolfannau dydd neu grwpiau gweithgareddau, mynd â nhw i siopa neu i’r sinema, i ofalu am bobl ag anghenion iechyd cymhleth mewn cartrefi preswyl neu lety â chymorth.

Mae ystod eang o gyfleoedd i ar gael i weithio’n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion.

Dywedodd y Cyng David A Bithell, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion, “Dyma gyfle delfrydol i unrhyw un sy’n chwilio am oriau gweithio hyblyg mewn rôl werthfawr a gofalgar, cymerwch gip ar sut gall byd gofal a Gofalwn Cymru helpu.

“Mae gennym nifer o swyddi gwag yma yn Wrecsam, gyda phobl sydd angen eich cefnogaeth a’ch cymorth.”

Mae’r holl swyddi yn Wrecsam a’r ardal gyfagos ar gael ar wefan Gofalwn Cymru, sydd hefyd yn cynnwys fideos, gwybodaeth a chyngor gan y rheiny sy’n gweithio yn y sector gofal iechyd ar hyn o bryd.

Mae’n werth ei weld ac rwy’n siŵr y gwelwch rhywbeth a fydd yn gweddu eich amgylchiadau personol.

Cliciwch yma  i ymweld â’r wefan.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Junior Gym Campfa am ddim i bobl ifanc 11-16 oed
Erthygl nesaf Beth yw HWB Cymraeg yn FOCUS Wales? Beth yw HWB Cymraeg yn FOCUS Wales?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English