Mae’r ddiod alcoholig hynaf sy’n hysbys i’r ddynol ryw wedi dod o hyd i gartref yn Wrecsam.
Mae Tony Cornish, gwneuthurwr medd profiadol, wedi bod yn creu medd ers dechrau’r 1990au ac wedi agor ei fedd-dy ar Lôn Rhosnesni.
Mae Stone Circle Mead Company yn arbenigo mewn cynhyrchu medd traddodiadol sy’n cyfuno mêl Cymreig, sbeisys, ffrwythau wedi’u chwilota, cnau, blodau a pherlysiau.
O’r eiddo yn Wrecsam, maen nhw’n cyflenwi rhai o leoliadau mawreddog y DU, gan gynnwys Tŷ’r Cyffredin, y Senedd ac eiddo amrywiol yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ogystal â chynnig teithiau blasu lle gallwch roi cynnig ar fedd, ei brynu a dysgu am y broses o’i gynhyrchu.
Ychwanegodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Mae hwn yn fusnes unigryw yn Wrecsam ac yn enghraifft arall o fuddsoddiad yn y fwrdeistref sirol. Mae Tony wedi cael cefnogaeth gan dîm busnes a buddsoddi’r cyngor i’w helpu i wneud y gorau o gyfleoedd busnes ac rwy’n dymuno pob lwc iddo ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd Tony Cornish, perchennog Stone Circle Meads Company: “Roeddem yn falch iawn o gwrdd â’r Cynghorydd Nigel Williams yn y medd-dy yn ddiweddar. Treuliodd lawer o amser gyda ni i glywed am yr hyn rydyn ni’n ei wneud a’r cynlluniau cyffrous sydd gennym ar gyfer y dyfodol.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch