Bydd gwaith gwella helaeth yn dechrau ar un o stadau tai Wrecsam yn yr wythnosau nesaf.
Bydd cartrefi ym Mhlas Madoc yn cael eu moderneiddio fel rhan o brosiect Cyngor Wrecsam i sicrhau ein bod yn cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru erbyn 2020.
Bydd insiwleiddio waliau allanol yn cael eu gosod yn 400 o dai ‘Cubbitt’ (ffrâm ddur) y Cyngor ym Mhlas Madoc fel rhan o’r gwelliannau.
Mae’r insiwleiddio wedi’i gynllunio i wella effeithlonrwydd ynni’r eiddo sydd fel arfer yn anoddach ac yn ddrytach eu cynhesu na thai bric gyda inswleiddiad wal geudod traddodiadol.
Bydd eiddo hefyd yn cael toeau newydd, os oes angen.
Bydd y prosiect hefyd yn gyfle i ni wella amgylchedd a thirwedd y stad. Gall hyn o bosibl gynnwys ailgynllunio mannau cyhoeddus, mannau parcio, ffensys newydd, ehangu gerddi a darparu tai newydd. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y gwaith i ddod draw i’r diwrnod agored a darganfod mwy.
Bydd nifer o eiddo gwag yn ardaloedd Peris a Gwynant o’r ystâd hefyd yn cael eu dymchwel fel rhan o’r gwaith.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Biliau ynni is ar gyfer tenantiaid
Meddai’r Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Yn dilyn sawl mis o waith paratoi ac ymgynghori gyda’r tenantiaid a phreswylwyr lleol, gallwn rŵan gyhoeddi y bydd y gwaith gwella yn dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf.
“Bydd y camau cyntaf yn cynnwys dymchwel eiddo yn Peris a Gwynant. Yn draddodiadol, mae’r rhain wedi bod yn amhoblogaidd ac yn anodd eu gosod ac maent yn cyfrannu ychydig iawn i edrychiad yr ystâd. Bydd eu dymchwel yn agor yr ardaloedd hyn ac yn ein helpu i wella’r ystâd o safbwynt amgylcheddol.”
“Bydd yr insiwleiddio waliau allanol hefyd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae wedi’i gynllunio i wneud cartrefi oerach yn haws eu cynhesu, felly gobeithio y bydd hyn yn golygu biliau ynni is ar gyfer llawer o’n tenantiaid.
“Bydd gosod yr inswleiddio hefyd yn ein galluogi i wella edrychiad allanol yr eiddo yn helaeth. Rydym wedi gweithio’n galed ar y gwaith cynllunio ac rydym yn gobeithio ailadrodd y llwyddiant rydym wedi’i gael gyda chynlluniau tebyg rydym wedi’u cynnal mewn ardaloedd fel Cefn a Johnstown.”
Cewch wybod mwy yn y digwyddiad gwybodaeth
Cynhelir digwyddiad galw heibio i roi gwybodaeth ar y gwaith gwella yng Nghanolfan Hamdden Plas Madoc (yn y Lolfa Acwa) ddydd Mercher, 9 Awst, 2pm-6.30pm.
Croeso i bawb. Bydd Swyddogion Tai wrth law i ateb cwestiynau a bydd cyfle i chi hefyd gwrdd a siarad â’r contractwyr a fydd yn gwneud y gwaith.
Cynhyrchwyd fideo CGI o sut y gall yr ystâd edrych yn gynharach eleni gan bartneriaeth rhwng Adran Tai ac Economi Cyngor Wrecsam a Phrifysgol Glyndwr.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith gwella tai sy’n cael ei wneud i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru, ewch i wefan y cyngor
Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI