Mae cyn-ddisgybl o ysgol yn Wrecsam, Roman Walker, yn achosi cryn dipyn o gyffro yn y byd criced proffesiynol, wrth iddo dderbyn contract dwy flynedd gan Forgannwg.
Mae Roman, sy’n 19 oed ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Bryn Alyn, wedi bod yn chwarae criced oedolion ers oedd yn 12 oed.
Meddai Michele, ei fam: “Mae Roman yn byw er mwyn criced ac rydym ni wedi treulio llawer o oriau yn mynd i sesiynau hyfforddi a gemau. Roedd y gemau cartref yn ne Cymru ac roedd gemau oddi cartref fel rheol i’r de o Fryste, gydag ambell i daith i ganolbarth Lloegr.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
“Roedd adran ymarfer corff Ysgol Bryn Alyn yn gefnogol iawn o’i amserlen hyfforddi a gemau, a oedd yn bwysig iawn i rywun a oedd yn gobeithio dod yn chwaraewr proffesiynol.”
“Hapus i gefnogi Roman”
Meddai Andy Jones, Pennaeth Cyfadran Iechyd a Lles a chyn-athro dosbarth Roman: “Mae’n braf iawn gweld cyn-ddisgyblion yn llwyddo yn eu dewis gyrfaoedd. Roeddem bob amser yn hapus iawn i gefnogi Roman ac rydym ni’n dymuno pob llwyddiant iddo ym Morgannwg, gan obeithio y cawn ei groesawu’n ôl i’r ysgol ar ymweliad yn fuan iawn. Roedd Roman yn fabolgampwr gwych ac, yn ogystal â’i sgiliau criced, roedd ei fedrau pêl-droed hefyd wedi dod â llwyddiant i’r ysgol, yn wir cawsom bedair blynedd heb golli gêm yn Wrecsam a bu i ni gyrraedd rownd derfynol Cymru ddwywaith.”
Dywedodd y cyfarwyddwr criced, Mark Wallace: “Mae Roman yn gricedwr ifanc cyffrous sydd wedi mwynhau tymor cychwynnol gwych gyda’r clwb.
“Rydym wedi gweld yr hyn y gall Roman ei wneud yng Nghwpan Undydd Royal London a’r Vitality Blast, lle y llwyddodd gadw ei ben dan bwysau mewn sefyllfaoedd anodd. Mae ganddo sgiliau trawiadol ac os bydd yn parhau i ddatblygu fel y mae, bydd yn mwynhau gyrfa lwyddiannus yn y gêm.”
Meddai Roman: “Dwi’n falch iawn mod i’n gallu chwarae criced yn broffesiynol i Forgannwg. Mae o wedi golygu llawer o waith caled ac ymroddiad i gyrraedd y pwynt yma, ac os ydw i’n parhau i weithio’n galed pwy a ŵyr beth all ddigwydd.”
“Hoffaf ddiolch i bawb sydd wedi bod wrth fy ochr a’m cefnogi dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf – heb eu cymorth nhw ni fyddaf yma heddiw yn canlyn fy mreuddwydion.”
Daeth gêm gyntaf Roman i Forgannwg yn erbyn Sussex yn y Gwpan Undydd, a bu iddo frwydo’n galed am rediadau a sicrhau’r fuddugoliaeth – ac roedd modd gwylio’r cyfan ar Sky.
Mae Bryan Walker, tad Roman, yn cofio bod i ffwrdd o’r gwaith y diwrnod y cafodd Roman y llythyr gan Gymru. Aeth â’r llythyr efo fo i Ysgol Heulfan a’i ddarllen i’r dosbarth. “Mae’n atgof arbennig iawn.”
Ers hynny mae Roman wedi chwarae i Farchwiail a Sir Wrecsam, Sir Amwythig, Cymru (dan bob grŵp oedran), Academi Morgannwg, Ail Dîm Morgannwg, Lloegr Dan 19 (yn ystod Cwpan y Byd Dan 19) a Thîm Cyntaf Morgannwg.
Mae o wedi chwarae yn India, Seland Newydd, De Affrica, Sbaen, Dubai ac Awstralia. Yn nes at adref, mae o wedi chwarae yn Lords, Gerddi Sophia, Ageas Bowl, Hove a Taunton – yr holl feysydd criced pwysig.
Hoffem ddymuno pob llwyddiant i Roman wrth iddo ddilyn ei yrfa fel chwaraewr proffesiynol.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN