Rydym yn gweithio gyda Xplore! Canolfan Ddarganfod yng nghanol y dref i ddarparu gweithdai rhyngweithiol ac ymgysylltu ag ysgolion a anelwyd at blant CA2 yn y fwrdeistref sirol i’w haddysgu am newid hinsawdd ac amlygu’r ffyrdd y gallant helpu i leihau ôl troed carbon.
Byddant yn cael eu cynnal yn y misoedd nesaf a gofynnir i’r sawl sy’n mynychu i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i greu cymeriad datgarboneiddio a all weld yr enillydd yn arweinydd amlwg ar gyfer gweithgareddau i gefnogi cymunedau lleol wrth iddynt ddechrau meddwl am sut y gallant leihau ôl troed carbon hefyd.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Fel diweddglo ar gyfer y gweithdai, bydd Xplore! yn cynnal 2 ddigwyddiad i blant o bob ysgol i ddathlu a rhannu beth mae pawb wedi’i ddysgu a chyflwyno cyfres o ddyluniadau cymeriad.
Yn ôl yn y Ganolfan Wyddoniaeth, bydd Xplore! yn gweithio gyda dylunwyr i ddatblygu arddangosfa ryngweithiol i gynnwys pawb mewn syniadau ar gyfer sut y gallwn i gyd wneud newidiadau.
Rydym yn edrych ar adeiladau a defnyddio llai o ynni, plannu mwy o goed a blodau gwyllt, ystyried sut rydym yn prynu’r pethau rydym eu hangen a ble rydym yn eu cael a gwneud mwy o’n siwrneiau mewn ffordd gynaliadwy ac egnïol.
“Mae gwaith lleihau carbon yn symud yn gyflym iawn”
Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae ein gwaith lleihau carbon yn symud yn gyflym iawn nawr ac mae cynnwys ysgolion yn ffordd ymlaen ardderchog.
“Mae newid hinsawdd yn bryder gwirioneddol ac rydym yn edrych ar fod yn garbon niwtral erbyn 2030 er mwyn gadael ein pobl ifanc gyda dyfodol cynaliadwy y gellir ei reoli ac sy’n dda ar gyfer ein hamgylchedd a’r blaned.”
Dywedodd Katie Williams, Swyddog Datblygu Busnes ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn Xplore, “Rydym yn bendant wedi gweld mwy o awydd gan ysgolion am gynnwys ar newid hinsawdd felly mae’r gweithdai hyn yn derbyn ymateb da iawn.
“Bydd dysgwyr yn cael adeiladu eu Stryd Cynaliadwyedd eu hunain ble byddant yn dechrau deall goblygiadau rhai o’u dewisiadau bob dydd syml.
“Byddwn yn rhoi ein stamp unigryw ein hunain ar y cynnwys i’w wneud yn sesiwn hwyliog a rhyngweithiol yn defnyddio enghreifftiau addas i’r oedran, perthnasol ac ystyrlon o sut gall myfyrwyr leihau eu heffaith amgylcheddol eu hunain.”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH