Mae gwaith i wella cyfleusterau ysgolion ar draws Wrecsam yn parhau wrth i’r haf nesáu, ac rydym bellach yn dechrau canolbwyntio ar Ysgol yr Hafod yn Johnstown sydd ar hyn o bryd wedi’i lleoli ar ddau safle gwahanol.
Er nad yw’r cynlluniau wedi’u llunio eto, mae cynigion wedi’u cyflwyno i ymestyn safle Ffordd Bangor ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen a Blynyddoedd Cynnar.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Os bydd popeth yn mynd yn unol â’r cynllun, bydd cais cynllunio yn cael ei gyflwyno ddiwedd yr haf / dechrau’r hydref ac yn mynd drwy’r broses gynllunio statudol cyn gynted â phosibl ar ôl cynnal ymgynghoriad â phob parti â diddordeb.
Disgyblion Ysgol yr Hafod ar un safle
Dywedodd y Cyng David A Bithell, Cadeirydd y Llywodraethwyr yn yr ysgol: “Yn dilyn cyfuno’r ddwy ysgol ychydig o flynyddoedd yn ôl, rydym yn obeithiol y byddwn yn gallu gweld yr ysgol gyfan gyda’i gilydd ar un safle. Megis dechrau ydym ni â’r cynlluniau ar hyn o bryd, ond mae’n gyfnod cyffrous ar gyfer gwella addysg i blant yn Johnstown.
Mae gwaith bellach yn mynd rhagddo i lunio cynlluniau manwl a fydd yn cael eu cyflwyno unwaith y byddant wedi’u cwblhau.”
Dywedodd Alison Heale, y Pennaeth: “Mae’n gyfnod cyffrous iawn i’r ysgol ac rydym yn obeithiol iawn y byddwn yn gallu gwireddu’r cynlluniau hyn cyn bo hir. Mae pobl ifanc Johnstown yn haeddu’r cyfleusterau gorau posibl ac mae staff yn barod i wynebu’r heriau a allai godi er mwyn sicrhau amgylchedd ysgol gwell i bawb.”
Nodyn i olygyddion:
Ariennir y gwaith hwn gan raglen Ysgolion yr 21ain ganrif Llywodraeth Cymru ac mae grant Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru ynghyd â Chyngor Wrecsam hefyd yn cyfrannu at y costau.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF