Mae Coed Cadw wedi darparu hwb mawr mewn cyllid i helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a chynyddu gorchudd coed a choetir ledled y sir.
Mae’r cyllid o £290,000, a ddarparwyd o Gronfa Argyfwng Coed yr elusen yn dilyn £2.1 miliwn o gymorth gan Gronfa Hinsawdd Right Now Amazon, yn rhan o chwe grant sy’n cael eu rhoi i awdurdodau lleol ledled y wlad, gan blannu 450,000 o goed a chreu mannau gwyrdd yn y cymunedau lleol yr effeithir fwyaf arnynt gan lygredd ac sydd â’r mynediad lleiaf i natur.
Mae Cronfa Argyfwng Coed gan Coed Cadw yn un o’r prosiectau cyntaf yn y DU i gael cefnogaeth drwy Gronfa Hinsawdd Right Now Amazon o $100 miliwn. Gyda €20 miliwn wedi’i ymrwymo i brosiectau ledled y DU ac Ewrop, mae’r gronfa wedi’i sefydlu i ddiogelu coedwigoedd, gwlypdiroedd a glaswelltiroedd, eu hadfer a’u gwella, amddiffyn cynefinoedd bywyd gwyllt, bioamrywiaeth ac ansawdd bywyd i gymunedau.
Fe’i crewyd i helpu awdurdodau lleol i blannu coed a choetiroedd newydd, datblygu strategaethau coed, mapio Gorchudd Canopi, sefydlu planhigfeydd coed newydd, ymgysylltu â pherchnogion tir a chymunedau a chyflwyno rhaglenni gwirfoddolwyr.
Yng Nghymru, mae cyfanswm o £294,845 wedi’i ddyfarnu i Wrecsam. Bydd y gronfa’n cefnogi prosiect partneriaeth Coedwig Wrecsam sy’n ceisio cynyddu coed a choetir ar draws y sir. Trwy roi ei strategaeth Coetir a Choed ar waith ac ymgysylltu â phartneriaid, busnesau, grwpiau ac unigolion, bydd y prosiect yn creu ymrwymiad cyfunol, sir i gyd, i amddiffyn coed a choetir a’u gwella.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr Hinsawdd, “Rydym yn gwybod bod coed a choetiroedd yn rhannau hanfodol o’n trefi a’n cefn gwlad. Maent yn bwysig i’n hiechyd, lles ac ansawdd bywyd – ac felly rydym yn falch iawn ein bod wedi cael y cyllid hwn a fydd yn ein helpu i gynyddu coed a choetiroedd ar draws y sir a chyfrannu at leihau ein hôl troed carbon.”
Dywedodd Natalie Buttriss, Cyfarwyddwr Coed Cadw , “Rhwng 2006-2013, collwyd 7,000 o goed mawr yng Nghymru, a rhwng 2009-2013, dangosodd 159 o’n 220 tref ostyngiad cyffredinol mewn coed. Ond rydym yn gwybod bod dymuniad i newid hyn – ac mae ein Cronfa Argyfwng Coed yn bodoli i helpu awdurdodau lleol fel Cyngor Wrecsam i droi uchelgeisiau o’r fath yn realiti.”
“Mae gan Coed Cadw hanes o waith sy’n seiliedig ar wyddoniaeth a’r gymuned sydd ag effaith ystyrlon a pharhaus ar fioamrywiaeth yn y DU, a dyna pam ein bod wedi dewis eu cefnogi fel un o ymrwymiadau cyntaf y Gronfa Hinsawdd UK Right Now,” meddai Zak Watts, Cyfarwyddwr Europe Sustainability, Amazon.
Fe aeth ymlaen i ddweud, “Ochr yn ochr chyd-sefydlu’r Addewid Hinsawdd yn 2019 a gwneud ymrwymiad i gyflawni carbon sero-net erbyn 2040, rydym yn gwneud cyfraniadau sylweddol i ddatrysiadau ar sail natur i ategu ein hymdrechion i leihau carbon a helpu i adfer a diogelu’r byd naturiol. Rydym yn falch o gefnogi Cronfa Argyfwng Coed yr elusen ac yn edrych ymlaen at weld 450,000 yn fwy o goed wedi’i blannu gan awdurdodau lleol ar draws y DU.”
Ydych chi wedi derbyn llythyr/ffurflen ynglŷn â’r gofrestr etholiadol?
PARATOWCH I BLEIDLEISIO