Mae £6.1 miliwn wedi’i ddyrannu i fusnesau yn Wrecsam dan y gefnogaeth rhyddhad ardrethu busnes a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae staff Cyllid a TGCh, gan gynnwys nifer a adleoliwyd o ddyletswyddau eraill, wedi trin mwy na 507 o hawliadau ac mae 300 yn cael eu prosesu ar hyn o bryd, a chânt eu prosesu yn ystod y dyddiau nesaf.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Gwnaeth y Prif Weithredwr, Ian Bancroft ac Arweinydd y Cyngor, y Cyng Mark Pritchard, groesawu’r newyddion, gan ddweud “Mae’n gyfnod anodd a phryderus iawn i fusnesau yn Wrecsam ac ar draws y DU. Mae staff wedi bod yn benderfynol bod y gefnogaeth a roddir gan Lywodraeth Cymru yn cyrraedd ein busnesau yn gyflym er mwyn eu helpu i ymdopi yn ystod y cyfnod hwn na welwyd ei debyg o’r blaen. Mae eu hymrwymiad i wneud hyn i’w weld wrth faint o hawliadau sydd wedi’u prosesu eisoes mewn cyfnod byr iawn, a gwyddom y bydd hyn yn parhau er mwyn sicrhau bod pob hawliad yn cael ei brosesu gyda’r cyflymder a’r cywirdeb sydd ei angen.”
Os nad ydych wedi gwneud cais eto, ceisiwch osgoi unrhyw oedi trwy fewnbynnu’r manylion gofynnol yn ofalus ar y ffurflen gais.
Gallwch ddarllen mwy am gymorth i fusnesau a sut i wneud cais yma.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19