Os yw cynnig yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod o! Dyna rybudd gan y Gwasanaeth Safonau Masnach heddiw ar ôl clywed bod dyn mewn oed wedi cael ei dwyllo i dalu £250 am siacedi lledr ffug.
Roedd y dyn mewn maes parcio archfarchnad pan ddaeth rhywun ato yn cynnig gwerthu pump o siacedi lledr gan ddylunwyr adnabyddus iddo. Dywedodd y twyllwr wrtho ei fod eisiau eu gwerthu’n gyflym gan nad oedd o eisiau mynd â’r siacedi gydag ef ar daith yr oedd ar fin ei dechrau. Dywedodd eu bod yn werth £100 yr un ond y byddai’n eu gwerthu am £250.
Roedd y dyn a dwyllwyd yn meddwl y byddent yn gwneud anrhegion Nadolig da a thalodd £250 i’r dyn cyn canfod nad oeddent mewn gwirionedd yn siacedi Armani, Boss a Verace a’u bod yn ffug ac yn werth y nesaf peth i ddim.
Rhybuddiwch pawb am y cynllun twyll hwn yn enwedig yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig.
Cofiwch! Os yw cynnig yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod o!
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=766&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN![/button]
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN [/button]