Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen “Newyddion Gwych”
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > “Newyddion Gwych”
ArallY cyngor

“Newyddion Gwych”

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 19, 2018 11:14 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Christmas Village
RHANNU

Mae ffigyrau newydd gael eu rhyddhau ar gyfer nifer yr ymwelwyr a ddaeth i’r Farchnad Fictoraidd eleni ac ymddengys bod swm anferthol o 32,823 o bobl wedi ymweld â chanol y dref i fynychu’r digwyddiad blynyddol hynod boblogaidd hwn.

Yn y digwyddiad a gynhaliwyd yn Eglwys San Silyn, ac ar Stryd yr Eglwys a Stryt Y Rhaglaw, gwelwyd dros 100 o stondinau a oedd yn cynnig arlwy Nadoligaidd i ymwelwyr o bob rhan o’r rhanbarth.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard: “Mae hwn yn ffigwr anhygoel ac yn newyddion gwych i’r rheiny sy’n gweithio yng nghanol y dref. Gwn fod pobl wedi dod o bob rhan o’r rhanbarth a’u bod wrth eu boddau â’r hyn a oedd ar gael gan gynnwys adloniant ar y stryd a’r awyrgylch hudolus sydd yng nghanol y dref eleni. Mae’r goleuadau newydd hefyd wedi gwneud gwahaniaeth a hoffwn ddiolch i bawb dan sylw am sicrhau bod y digwyddiad hwn eleni, a’r holl ddigwyddiadau eraill a gynhelir dros y Nadolig, wedi bod mor llwyddiannus.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.

Daw’r newyddion hwn yn dilyn digwyddiad olaf y Nadolig sef Pentref y Nadolig a gynhaliwyd yn Llwyn Isaf a Sgwâr y Frenhines lle cafwyd oddeutu 27,000 o bobl yn ymweld â Wrecsam – ni ellir darparu ffigyrau manwl gan nad oes unrhyw rifwyr ymwelwyr yn yr ardal.

Gwelsom ni o gwmpas 7,500 ar ddydd Gwener; 6,000 ar ddydd Sadwrn (oedd rhaid i ni gau’n fuan oherwydd y tywydd garw!) a 13,500 ar ddydd Sul.

Dyma’r tro cyntaf i Bentref y Nadolig gael ei osod yn Wrecsam ond rydym yn amau mai nid dyma’r tro olaf!

Os ydych wedi ymweld ag unrhyw un o’n digwyddiadau hoffem ddiolch i chi am eich cefnogaeth a gobeithiwn y byddwch yn ymweld â ni eto’n fuan.

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Canu yn Nhŷ Pawb dros y Nadolig Canu yn Nhŷ Pawb dros y Nadolig
Erthygl nesaf Ydych chi’n chwilio am anrheg munud olaf? Ydych chi’n chwilio am anrheg munud olaf?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

surgery to waterloo
Cadwch y Dyddiad: 24 Medi
Digwyddiadau
Medi 16, 2026
Crematorium
Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan
Y cyngor
Medi 16, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.
Pobl a lle
Medi 16, 2026
The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English