Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen 5 peth i edrych ymlaen atynt yn O Dan y Bwâu 2019
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Ageing Well event at Ty Pawb
Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam (12 Chwefror)
Digwyddiadau
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lle Y cyngor
Parking sign
Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio
Digwyddiadau Pobl a lle
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > 5 peth i edrych ymlaen atynt yn O Dan y Bwâu 2019
ArallPobl a lleY cyngor

5 peth i edrych ymlaen atynt yn O Dan y Bwâu 2019

Diweddarwyd diwethaf: 2019/05/30 at 10:54 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
5 peth i edrych ymlaen atynt yn O Dan y Bwâu 2019
RHANNU

Dyw O Dan y Bwâu 2019 ddim ond ychydig o wythnosau i ffwrdd ac mae’r cyffro nawr yn dechrau o ddifrif. Er mwyn paratoi rydym wedi llunio rhestr o rai o’r pethau i edrych ymlaen atynt yn y digwyddiad.

Cynnwys
1. Mae’n hwyl i’r teulu cyfan2. Caniateir cadeiriau3. Lleoliad Syfrdanol4. Polisi ‘dod â’ch diod eich hun’5. Cyfle gwych i dynnu lluniau

1. Mae’n hwyl i’r teulu cyfan

Dychmygwch hyn. Rydych yn gweld digwyddiad sy’n ymddangos yn un o ansawdd yn cael ei hysbysebu ar-lein. Mae yna ddiodydd, cerddoriaeth, bwyd da a hynny mewn lleoliad syfrdanol. Rydych yn barod i brynu eich tocynnau ond rydych yn gweld y neges yr ydych yn ei hofni “DIM PLANT O DAN 16”. Yn ffodus ni fydd hynny’n broblem gydag O Dan y Bwâu, mae’r digwyddiad yn un i’r teulu ac mae rhieni’n cael eu hannog i ddod â’u plant.

2. Caniateir cadeiriau

Ydych chi’n casáu sefyll am gyfnodau hir o amser? Rydym ninnau hefyd. Yn ffodus mae hynny’n rhywbeth y mae O Dan y Bwâu wedi ei ystyried drwy ganiatáu i bawb sy’n mynychu i ddod â chadair gyda nhw.

GWNEWCH GAIS AM GLUDIANT I’R YSGOL YM MIS MEDI RŴAN!

3. Lleoliad Syfrdanol

Dim ond 3 Safle Treftadaeth y Byd sydd yng Nghymru ac mae Sir Wrecsam yn ddigon ffodus i fod yn gartref i un ohonynt. Pa ffordd well o ddathlu hyn na thrwy gynnal gŵyl enfawr wrth droed y safle ar ddiwrnod bendigedig (gobeithio) o haf? Mae eleni hefyd yn nodi 10 mlwyddiant ers i’r draphont gael Statws Safle Treftadaeth y Byd sy’n fwy o reswm fyth i fynychu!

4. Polisi ‘dod â’ch diod eich hun’

Does dim byd gwaeth na thalu tâl mynediad i ŵyl dim ond i ganfod eich bod yn cael eich gorfodi i dalu crocbris am frand o ddiod nad ydych hyd yn oed yn ei hoffi. Mae O Dan y Bwâu yn mynd i’r afael â’r broblem hon drwy ganiatáu i’r rhai a ddaw i’r ŵyl i ddod â’u halcohol eu hunain i’r digwyddiad (cyn belled â’u bod o oed cyfreithlon).

Sicrhewch eich bod yn gwirio’r rhestr o alcohol a ganiateir isod:

• 8 can 440ml / neu boteli 330ml o gwrw, lager neu seidr, neu…
• 1 potel win 75cl, neu…
• 1 potel 50cl neu 0.5ltr o wirodydd

5. Cyfle gwych i dynnu lluniau

Sicrhewch fod gennych fwy nag atgofion o ddigwyddiad O Dan y Bwâu eleni drwy dynnu lluniau o’ch hoff eiliadau.

Gall tynnu ychydig o luniau arwain at gael tocynnau ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf hyd yn oed!

Felly, ydi hyn wedi’ch rhoi mewn hwyliau ar gyfer ‘O Dan y Bwâu’ eleni? Yna gallwch brynu’ch tocynnau yma neu drwy glicio ar y botwm isod.

A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://admissions.wrexham.gov.uk/CitizenPortal_Live/Account/Login?ReturnUrl=%2FCitizenPortal_Live%2F%E2%80%9D”] GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Investment Scam Property Money Peidiwch â chael eich twyllo gan y sgiâm buddsoddi hwn
Erthygl nesaf Dysgu Amser Cinio – Sesiwn Peintio Gyda Llinyn Dysgu Amser Cinio – Sesiwn Peintio Gyda Llinyn

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg Ionawr 30, 2026
Ageing Well event at Ty Pawb
Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam (12 Chwefror)
Digwyddiadau Ionawr 30, 2026
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 29, 2026
Parking sign
Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lleY cyngor

Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol

Ionawr 29, 2026
Parking sign
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio

Ionawr 28, 2026
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 27, 2026
Ruabon library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon

Ionawr 23, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English