Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Peidiwch â methu’r cyfle i gadw’n Heini ar Gyfer yr Haf
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Peidiwch â methu’r cyfle i gadw’n Heini ar Gyfer yr Haf
Busnes ac addysgPobl a lle

Peidiwch â methu’r cyfle i gadw’n Heini ar Gyfer yr Haf

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 14, 2019 10:23 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Peidiwch â methu’r cyfle i gadw'n Heini ar Gyfer yr Haf
RHANNU

Ydych chi’n awyddus i fod yn ffit erbyn yr haf?

Cynnwys
  • Heini ar Gyfer yr Haf
  • Darganfyddwch beth sy’n gweithio i chi
  • “Rhowch gynnig arni”
  • Cysylltwch â ni

Rydym yn gwybod fod digonedd o bobl yn hoffi bod yn ffit yn ystod misoedd yr haf, yn arbennig wrth i’r tywydd gynhesu.

Gyda hynny mewn golwg, bydd ein partneriaid o ‘Freedom Leisure’ – sy’n cynnal ein canolfannau hamdden a gweithgaredd yn Y Byd Dŵr, Y Waun, Gwyn Evans a Queensway, a phum canolfan aml-ddefnydd – yn lansio cynnig i helpu pobl fynd i’r afael â ffitrwydd yn ystod yr haf.

GWNEWCH GAIS AM GLUDIANT I’R YSGOL YM MIS MEDI RŴAN!

Heini ar Gyfer yr Haf

O heddiw (ddydd Gwener, 14 Gorffennaf), bydd holl gyfleusterau Freedom Leisure yn cynnal ymgyrch ffitrwydd blynyddol Heini ar Gyfer yr Haf am gyfnod cyfyngedig.

Yn ystod yr ymgyrch, bydd cyfle i chi fynd i’r bum canolfan hamdden a gweithgareddau, tri phwll nofio a mwy na 100 o ddosbarthiadau dros 30 diwrnod – am £25 yn unig.

Ac yn hyd yn oed gwell – bydd pawb sy’n cofrestru ar gyfer yr ymgyrch yn cael eu rhoi mewn raffl fawr i ennill mis ychwanegol ar y cynllun am ddim, gyda chwe enillwr yn cael eu dewis; felly mae hyd yn oed fyw o gymhelliad i gofrestru!

Cymerwch olwg yma i weld y Telerau ac Amodau llawn.

Darganfyddwch beth sy’n gweithio i chi

Pan mae’n dod i fyw yn iach, nid yw popeth yn gweithio i bawb – ac nid yw pawb yn chwilio am yr un canlyniadau.

Dyna’r rheswm ein bod ni eisiau rhoi cyfle i chi gael blas ar amrywiaeth o bethau i weld beth sy’n gweithio i chi.

“Rhowch gynnig arni”

Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Rydym yn gwybod bod nifer o bobl, am lawer o resymau, ddim yn hoff o fynd i’r gampfa neu gymryd rhan mewn unrhyw fath o ymdrech ffitrwydd wedi’i drefnu – er eu bod nhw’n awyddus i gadw’n ffit a chymryd rhan mewn ymarfer corff.

“Mae digonedd ar gael ar safleoedd ‘Freedom Leisure’, a hoffem roi cyfle i bobl roi cynnig ar bethau gwahanol i weld beth sy’n gweithio iddyn nhw.

“Bydd yr ymgyrch Heini ar Gyfer yr Haf yn gyfle gwych iddyn nhw gael blas ar bethau gwahanol a gweld a oes unrhyw beth yr hoffent gymryd rhan ynddo yn y tymor hir – ac yn helpu tuag at gadw’n ffit ar gyfer yr haf.”

Cysylltwch â ni

Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch Heini ar Gyfer yr Haf, cysylltwch â ni ar

Y Byd Dŵr: 01978 297300

Y Waun: 01691 778666

Gwilym Evans: 01978 269540

Queensway: 01978 355826

Neu dilynwch y ddolen hon i gofrestru eich diddordeb.

A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://admissions.wrexham.gov.uk/CitizenPortal_Live/Account/Login?ReturnUrl=%2FCitizenPortal_Live%2F%E2%80%9D”] GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Byddwch yn ymwybodol o dwyll Byddwch yn ymwybodol o dwyll
Erthygl nesaf Eich cyfle chi i gymryd rhan yn ein Ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor Eich cyfle chi i gymryd rhan yn ein Ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English