Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Defnyddwyr gwasanaethau hamdden yn canmol y cyfleusterau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Ageing Well event at Ty Pawb
Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam (12 Chwefror)
Digwyddiadau
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lle Y cyngor
Parking sign
Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio
Digwyddiadau Pobl a lle
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Defnyddwyr gwasanaethau hamdden yn canmol y cyfleusterau
Pobl a lleY cyngor

Defnyddwyr gwasanaethau hamdden yn canmol y cyfleusterau

Diweddarwyd diwethaf: 2019/06/06 at 3:25 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Leisure Centres
RHANNU

Mae dros dair blynedd ers i ni ymuno â’r bartneriaeth gyda Freedom Leisure, i redeg ein canolfannau hamdden a gweithgareddau.

Ers hynny, rydym wedi buddsoddi mwy na £2.7miliwn i wella cyfleusterau ar draws holl ganolfannau hamdden a gweithgaredd, ynghyd â chanolfannau aml-ddefnydd mewn ysgolion ar draws yr ardal.

A’r newyddion da yw – mae’n ymddangos bod pobl yn hoffi’r gwelliannau!

GWNEWCH GAIS AM GLUDIANT I’R YSGOL YM MIS MEDI RŴAN!

Yn ddiweddar, bu tîm o Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal arolwg gyda mwy na 200 o ddefnyddwyr canolfannau hamdden – ac maent wedi ein canmol ni a Freedom Leisure am ein gwaith caled a buddsoddiad.

Cymrwch olwg ar yr ffeithlun isod am fwy o fanylion a thystebau gan gwsmeriaid bodlon.

Defnyddwyr gwasanaethau hamdden yn canmol y cyfleusterau Defnyddwyr gwasanaethau hamdden yn canmol y cyfleusterau

Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Rwy’n falch iawn o’r ymatebion a gasglodd Swyddfa Archwilio Cymru yn ystod eu harolwg diwethaf o ddefnyddwyr canolfannau hamdden a gweithgaredd.

“Mae mwyafrif y defnyddwyr yn canmol y gwelliannau a wnaed o ganlyniad i’r buddsoddiad diweddar; maent yn credu ei bod yn hawdd dod o hyd i wybodaeth am y gwasanaeth, ac yn credu ei fod yn werth da am arian.

“Mae’n arwydd ardderchog o hyder yn nhîm Freedom Leisure mai’r hyn oedd yn annog chwarter y defnyddwyr i ddefnyddio’r canolfannau, oedd y staff proffesiynol a chyfeillgar.

“Mae meysydd sydd wedi eu nodi yn yr arolwg y byddwn yn eu gwella, gan gynnwys nifer fechan o bobl yn pryderu am lanweithdra.

“Er mai nifer fechan oedd hyn, rydym eisiau i 100 y cant o ddefnyddwyr ein canolfannau fod yn hapus gyda safonau ar draws ein holl ganolfannau hamdden a gweithgaredd, a bydd hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei wella wrth gydweithio â Freedom Leisure.

“Ond ar y cyfan, mae’r canlyniadau hyn yn hynod o galonogol, ac yn destament i waith caled y tîm o swyddogion yng Nghyngor Wrecsam, a’n partneriaid anhygoel yn Freedom Leisure.”

Dywedodd Andy Harris, Rheolwr Ardal Freedom Leisure: “Mae’r ymatebion i arolwg Swyddfa Archwilio Cymru yn galonogol iawn, a hoffwn ddiolch i’r staff ar draws ein holl ganolfannau hamdden a gweithgaredd am eu holl waith i gynnal safon uchel o wasanaeth ers i Freedom Leisure ddechrau rhedeg y canolfannau i Gyngor Wrecsam yn 2016.”

A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://admissions.wrexham.gov.uk/CitizenPortal_Live/Account/Login?ReturnUrl=%2FCitizenPortal_Live%2F%E2%80%9D”] GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Niferoedd y rhai dan 16 sy’n nofio am ddim bron â dyblu Niferoedd y rhai dan 16 sy’n nofio am ddim bron â dyblu
Erthygl nesaf Mae heddiw yn Ddiwrnod Diogelwch Bwyd y Byd! Mae heddiw yn Ddiwrnod Diogelwch Bwyd y Byd!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg Ionawr 30, 2026
Ageing Well event at Ty Pawb
Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam (12 Chwefror)
Digwyddiadau Ionawr 30, 2026
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 29, 2026
Parking sign
Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lleY cyngor

Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol

Ionawr 29, 2026
Parking sign
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio

Ionawr 28, 2026
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 27, 2026
Ruabon library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon

Ionawr 23, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English