Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Covid-19 (Corofeirws Newydd) – Nodyn Briffio’r Cyhoedd, 18.3.20
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Covid-19 (Corofeirws Newydd) – Nodyn Briffio’r Cyhoedd, 18.3.20
Y cyngorYn cael sylw arbennig

Covid-19 (Corofeirws Newydd) – Nodyn Briffio’r Cyhoedd, 18.3.20

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 26, 2020 10:59 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Covid 19
RHANNU
Mae’r nodyn hwn yn ddiweddariad i’r wybodaeth a gafodd ei gyhoeddi ddoe (17.3.20).

Digwyddiadau a gweithgareddau yn lleoliadau a mannau cyhoeddus y Cyngor

Fel rhan o’r ymateb parhaus i Covid-19 (Coronavirus), mae Cyngor Wrecsam wedi cyhoeddi’r mesurau canlynol heddiw.

Cynnwys
        • Mae’r nodyn hwn yn ddiweddariad i’r wybodaeth a gafodd ei gyhoeddi ddoe (17.3.20).
  • Digwyddiadau a gweithgareddau yn lleoliadau a mannau cyhoeddus y Cyngor
      • Tŷ Pawb
      • Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
      • Gweithgareddau Gwyliau’r Pasg
      • Digwyddiadau dinesig
      • Gweithgareddau canolfannau hamdden
      • Ymgynghoriad Cae Nine Acres a digwyddiad Awr Ddaear
      • Canolfan Groeso Wrecsam
  • Nodyn i’ch atgoffa – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19

Mae pob digwyddiad a gweithgaredd (yn cynnwys gweithgareddau a gweithdai i blant) wedi’u gohirio yn y lleoliadau a’r mannau cyhoeddus canlynol:

  • Llyfrgelloedd
  • Parciau Gwledig Tŷ Mawr a Dyfroedd Alun
  • Canolfannau Adnoddau Cymunedol (yn cynnwys Plas Pentwyn, Acton, Llai, Brynteg a Gwersyllt)

Bydd y lleoliadau a’r mannau’n parhau ar agor, ond ni chynhelir unrhyw ddigwyddiadau na gweithgareddau sydd wedi’u trefnu gan y Cyngor yno, nes y clywir yn wahanol.

Felly i fod yn glir, mae ein llyfrgelloedd, parciau gwledig a chanolfannau adnoddau yn dal i fod ar agor – ond mae unrhyw ddigwyddiadau a gweithgareddau oedd i fod i gael eu cynnal yno wedi cael eu gohirio.

Tŷ Pawb

Yn Tŷ Pawb, bydd yr orielau, gofodau perfformio a siop Tŷ Pawb (Siop//Shop) ar gau nes y clywir yn wahanol.

Bydd holl ddigwyddiadau Tŷ Pawb – gan gynnwys digwyddiadau a drefnir yn allanol a llogi lleoliadau – yn cael eu hatal nes bydd rhybudd pellach.

Ond mae neuadd y farchnad, stondinau a’r siopau tec-awê yn parhau ar agor, gyda rhagor o fesurau hylendid ar waith…yn cynnwys rhagor o gyfleusterau er mwyn i ymwelwyr olchi eu dwylo.

Am y tro, mae Marchnad y Cigyddion a’r Farchnad Gyffredin yn dal i fod ar agor, ond mae rhagor o fesurau hylendid yn cael eu cyflwyno.

Bydd y Farchnad yn Sgwâr y Frenhines ar ddydd Llun yn parhau fel arfer.

Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam

O heddiw ymlaen, bydd Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cau nes y clywir yn wahanol.

Gweithgareddau Gwyliau’r Pasg

Mae gweithgareddau gwyliau’r Pasg a drefnwyd fel rhan o raglen ddigwyddiadau’r Cyngor – yn cynnwys yr Helfa Wyau Pasg yng nghanol tref Wrecsam – wedi cael eu gohirio hefyd hyd y gellir rhagweld.

Bydd penderfyniad am ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu at nes ymlaen yn y gwanwyn a’r haf yn cael ei wneud yn nes at yr amser.

Os ydych chi’n ystyried mynd i ddigwyddiad neu weithgaredd ar hyn o bryd (yn cynnwys digwyddiadau sydd heb eu trefnu gan y Cyngor), mae’n syniad da gwirio gyda’r trefnwyr i ganfod a ydi’r digwyddiad yn dal i gael ei gynnal.

Digwyddiadau dinesig

Mae pob digwyddiad roedd y Maer neu’r Dirprwy Faer fod i’w mynychu wedi cael eu canslo am y tro.

Gweithgareddau canolfannau hamdden

Y canolfannau hamdden eu hunain fydd yn penderfynu a ydynt am newid eu darpariaethau/trefniadau agor (nid y Cyngor sydd yn gweithredu canolfannau hamdden yn y Fwrdeistref Sirol).

Ymgynghoriad Cae Nine Acres a digwyddiad Awr Ddaear

Ni fydd y sesiwn galw heibio a drefnwyd fel rhan o ymgynghoriad Cae Nine Acres – a oedd i fod i gael ei gynnal yn y Neuadd Goffa yn Wrecsam ddydd Iau 19 Mawrth – bellach yn cael ei gynnal (gallwch barhau i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein).

Mae digwyddiad i gefnogi Awr Ddaear, a oedd i fod i gael ei gynnal yn Neuadd y Dref ddydd Mawrth 24 Mawrth wedi cael ei ohirio hefyd.

Canolfan Groeso Wrecsam

Bydd Canolfan Groeso Wrecsam yn cau ddydd Gwener yma, y rheswm pennaf am hyn yw’r gwaith o symud i eiddo yn Ffordd Caer a oedd wedi’i gynllunio ymlaen llaw.

Bydd penderfyniad ynglŷn â phryd i agor y Ganolfan newydd yn digwydd yn y dyfodol.

Nodyn i’ch atgoffa – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y firws a’r hyn y dylai pobl ei wneud yn cael eu darparu:

  • Mewn datganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (yn cynnwys y Prif Weinidog).
  • Mewn briffiau swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.

Mae’r sefyllfa hon yn newid yn gyflym iawn, felly byddwn yn cyhoeddi rhagor o nodiadau cyhoeddus fel y bo angen ac fel y bo’n briodol.

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid 19 scam alert Diweddariad – Sgamiau Covid – 19
Erthygl nesaf Wrexham residents receive loft insulation phone calls…is it a scam Trigolion Wrecsam yn derbyn galwadau ffôn am insiwleiddiad atigau…ai twyll ‘di hyn?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English