Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dewch i gwrdd â Morgan Thomas – mae’n gweithio fel Swyddog Olrhain Cysylltiadau i ni
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Dewch i gwrdd â Morgan Thomas – mae’n gweithio fel Swyddog Olrhain Cysylltiadau i ni
ArallY cyngor

Dewch i gwrdd â Morgan Thomas – mae’n gweithio fel Swyddog Olrhain Cysylltiadau i ni

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 13, 2020 12:59 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Morgan Thomas
RHANNU

Mae gennym dîm o staff sy’n helpu gyda’r ymdrech genedlaethol i fynd i’r afael â Covid-19 trwy weithio i’r tîm Profi, Olrhain, Diogelu.

Un aelod o’n tîm yw Morgan Thomas. Mae fel arfer yn gweithio fel Swyddog Digwyddiadau yn Nhŷ Pawb, ac mae’n sôn am ei brofiad o weithio fel swyddog Olrhain Cysylltiadau isod:

“Ddiwedd mis Mai, gofynnwyd i mi weithio fel rhan o dîm o swyddogion Olrhain Cysylltiadau yng ngwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru. Oherwydd y cyfyngiadau ar y diwydiant adloniant, cefais fy adleoli o’m rôl arferol fel Swyddog Digwyddiadau yn Nhŷ Pawb i fenter newydd sbon i olrhain achosion lleol ac achosion posibl o Covid-19.

SUT I GAEL PRAWF OS OES GENNYCH SYMPTOMAU CORONAFIRWS

Roeddwn i’n awyddus i gefnogi’r gwasanaeth hanfodol hwn oherwydd mae cyflwyno system olrhain cysylltiadau yn allweddol i ddiogelu pobl Wrecsam rhag effaith Covid 19. Mae’r gwasanaeth yn hanfodol o ran annog y gymuned leol i ymweld â siopau, atyniadau a lleoliadau lletygarwch yr ardal yn ddiogel pan fydd mesurau’r cyfnod clo wedi’u codi hefyd – rhywbeth rwy’n angerddol drosto ar ôl gweithio mewn lleoliad marchnad, celfyddydau a chymunedol fel Tŷ Pawb.

Pobl sy’n cael prawf cadarnhaol yn cael swyddog Olrhain Cysylltiadau

Wrth gyfathrebu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r Cyngor yn cael gwybod bob dydd am unigolion yn y Fwrdeistref sydd wedi cael prawf positif am Covid-19. Yna caiff yr achosion hyn eu dyrannu i swyddog Olrhain Cysylltiadau fel fi, a’u gwaith nhw yw cysylltu â nhw dros y ffôn a’u cyfweld am eu symptomau, i ganfod yr union gyfnod pan fyddai’r unigolyn wedi bod yn heintus.

Rydym yn darparu cyngor am amserlen eu cyfnod hunanynysu yn seiliedig ar pa bryd ddechreuodd eu symptomau a darparu cyngor cyffredinol ar hylendid ac atal y feirws rhag lledaenu ymhellach. Yn ail rhan yr alwad ffôn, rydym yn gofyn i’r unigolyn feddwl am leoedd maen nhw wedi bod a phobl maen nhw wedi dod i gysylltiad â nhw yn ystod eu cyfnod heintus, gan gynnwys unrhyw aelodau o’u haelwyd. Rydym yn cofnodi’r cysylltiadau hyn a chymryd nodiadau/nodi unrhyw achosion lle mae tuedd neu glwstwr o ran lleoliad fel pe bai’n ffurfio.

Yna caiff swyddog Olrhain Cysylltiadau ei ddyrannu i bob cyswllt a gaiff ei olrhain, a fydd yn gwirio bod yr unigolion hyn yn iach, yn gallu hunanynysu a darparu unrhyw gyngor iddynt pe baent yn datblygu symptomau.

Ychydig iawn o brofiad rwyf wedi’i gael o weithio yn y math hwn o amgylchedd, felly mae ambell sgwrs anodd wedi bod ac rwyf wedi teimlo braidd yn ofnus weithiau, ond mae’r tîm cyfan, a oedd i gyd yn newydd i’r rôl hon ac sydd wedi gorfod addasu’n gyflym iawn, wedi bod yn wych i weithio gyda nhw.

Mae pob diwrnod yn wahanol, a dydych chi ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl, ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn falch o ddarparu’r wybodaeth berthnasol ac maen nhw’n teimlo rhyddhad i gael cyngor gennym ni. Rwy’n falch fy mod i wedi gallu gweithio yn y rôl ddiddorol hon oherwydd dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi teimlo ein bod yn gwneud gwahaniaeth gyda’n gwaith, ac mae’r teimlad o ddiogelu’r gymuned wedi bod yn werthfawr iawn.”

Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gogledd Cymru Dychwelyd i fynyddoedd a bryniau Cymru – Erthygl gwestai gan “Heddlu Gogledd Cymru”
Erthygl nesaf BWYTA ALLAN CThEM yn gwahodd y diwydiant lletygarwch i gofrestru ar gyfer y cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English