Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dringo er budd Canser
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Dringo er budd Canser
ArallPobl a lle

Dringo er budd Canser

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 6, 2017 4:00 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Dringo er budd Canser
RHANNU

Mae hirdeithwyr a mynyddwyr bob amser yn ymdrechu i fynd yn uwch a mwy eithafol, ac mae hyn yn mynd â dau aelod o staff Cyngor Wrecsam i Wersyll Cychwyn Everest!

Mae Susan a Gavin Mascall eisoes wedi dringo Toubkal (y mynydd uchaf yn Affrica), Alpau Awstria ac Alpau Ffrainc, a nawr bydd y ddau yn treulio 14 diwrnod yn dringo i Wersyll Cychwyn Everest, yna ymlaen i gopa sy’n uwch, cyn dod yn ôl i lawr i Lukla i hedfan yn ôl i Kathmandu.

Er mai eu gwyliau nhw yw’r daith hon – dim gwely haul i’w weld – maen nhw hefyd wedi penderfynu codi arian ar gyfer Canser y Coluddyn Gogledd Cymru.

DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

Mae Gavin yn gweithio gyda phobl sydd wedi eu hatgyfeirio i wneud ymarfer corff gan eu Meddyg Teulu fel rhan o’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff. Dros y blynyddoedd mae wedi gweithio gyda nifer sydd wedi dioddef canser y coluddyn a’r bobl ddewr hyn sydd wedi ysbrydoli’r ddau i ddefnyddio’r daith hon i godi arian i’r elusen.

Pan ofynnwyd iddo pam roedd ef a’i wraig wedi dewis y daith hon ac i godi arian i Gymorth Canser y Coluddyn Gogledd Cymru, dyma ddywedodd: “Rydym wrth ein bodd o fod yn y mynyddoedd ac mae mynd i’r Himalayas bob amser wedi bod yn freuddwyd i ni. Gwnaethom benderfynu codi arian i Gymorth Canser y Coluddyn Gogledd Cymru oherwydd ein bod wedi ein hysbrydoli gan un o’r cleientiaid rydym wedi gweithio gyda hi ar y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, a sefydlodd y grŵp hwn, er ei bod yn dal i gael triniaeth ar gyfer ei chanser. Rydym wedi gallu ei chefnogi drwy ei thaith gyda chanser a gobeithio bydd codi’r arian hwn yn golygu y gellir cefnogi rhagor o bobl drwy ddiagnosis o ganser y coluddyn ar draws Gogledd Cymru. Byddwn yn dal i weithio’n agos gyda nifer o gleifion canser ac rydym yn gwybod faint all siarad gyda rhywun arall sydd wedi cael diagnosis canser eu hunain ei olygu. Bydd beth bynnag allwn ei godi, gobeithio, yn tynnu ychydig o’r baich oddi ar y tîm da o wirfoddolwyr yn Cymorth Canser y Coluddyn Gogledd Cymru a galluogi eu rhwydwaith o gymorth i dyfu.”

Os hoffech gyfrannu at yr achos hwn a chefnogi Susan a Gavin ar eu taith nesaf, ewch i https://www.justgiving.com/crowdfunding/bowelcancersupportnorthwales.

Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=453&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DYWEDWCH EICH DWEUD[/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://newyddion.wrecsam.gov.uk”]GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mobile Library Wnewch chi ddim credu faint o lefydd y mae ein llyfrgell deithiol yn ymweld â nhw!
Erthygl nesaf Banc bwyd yn paratoi at y Nadolig Banc bwyd yn paratoi at y Nadolig

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English