Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Cyfrifiad 2021 ar ei anterth yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae Cyfrifiad 2021 ar ei anterth yn Wrecsam
Pobl a lle

Mae Cyfrifiad 2021 ar ei anterth yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 18, 2021 12:07 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Mae Cyfrifiad 2021 ar ei anterth yn Wrecsam
RHANNU

Gyda dydd Sul, 21 Mawrth yn llythrennol rownd y gornel, mae Cyfrifiad 2021 ar ei anterth yn Wrecsam.

Mae’r llythyrau, gydag eich codau mynediad unigryw, i gyd wedi eu hanfon ac mae ymatebion eisoes yn cyrraedd.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r wybodaeth a gesglir yn y cyfrifiad o fudd i bawb yn Wrecsam gan y defnyddir y ffigyrau hyn gan y llywodraeth i’w helpu i bennu lefelau ariannu, felly mae gan y wybodaeth a roddir gennych wir werth i chi a’ch cymuned. Nid oes unrhyw beth arall sy’n cynnig cymaint o fanylion am y gymdeithas rydym yn byw ynddi.”

“Trwy gymryd rhan yn y cyfrifiad, sy’n cymryd ychydig iawn o’ch amser, rydych yn helpu eich cymuned i gael y gwasanaethau mae ei hangen ar gyfer y ddeg mlynedd nesaf a thu hwnt. Mae gan y cyfrifiad y potensial i drawsnewid bywydau er gwell, felly mae’n bwysig iawn eich bod yn cymryd rhan dros y dyddiau nesaf – os nad ydych wedi gwneud yn barod.”

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Dywedodd Iain Bell, Dirprwy Ystadegydd Cenedlaethol yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol: “Bydd cyfrifiad llwyddiannus yn helpu i roi’r darlun gorau o anghenion pawb sy’n byw yng Nghymru a Lloegr.

“Mae’n ein helpu i ddeall beth mae ein cymdeithas ei angen yn awr a beth fydd yn debygol o’i angen yn y dyfodol. Rydym wedi cael ymateb gwych hyd yma, gyda chymaint ohonoch yn cwblhau’r holiadur ar eich gliniaduron, ffonau a chyfrifiaduron.

“Mae’n cymryd dim ond 10 munud i gymryd rhan ac os na allwch fynd ar-lein, mae ffurflenni papur ar gael i’r rhai sydd eu hangen. Nawr yw’r amser i adael eich marc ar hanes.”

Cael trafferth cwblhau'r Cyfrifiad? Mae Canolfan Gymorth y Cyfrifiad sy'n cael ei rhedeg gan Bartneriaeth Parc Caia yn cynnig cymorth dros y ffôn i'ch helpu i'w lenwi. Gallwch ffonio ar 01978 310984.#Cyfrifiad2021 @Cyfrifiad2021 pic.twitter.com/jNZ5jJiuej

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 18, 2021

Gan weithredu yn unol â chanllawiau Covid-19 diweddaraf y Llywodraeth, bydd swyddogion maes yn cael eu gosod ledled y sir i gysylltu â’r rhai sydd heb ymateb. Byddant yn cynnig cymorth a chyngor i’r rhai sydd ei angen. Byddant hefyd yn atgoffa pobl bod angen eu hymateb i’r cyfrifiad yn ôl y gyfraith.

Mae’r holiadur yn cynnwys cwestiynau am eich rhyw, oedran, gwaith, iechyd, addysg, maint yr aelwyd ac ethnigrwydd. Ac, am y tro cyntaf, bydd cwestiwn yn gofyn i bobl a ydynt wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, yn ogystal â chwestiynau gwirfoddol i’r rhai 16 oed a hŷn am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.

https://twitter.com/cbswrecsam/status/1372518907391672321

Yng Nghymru, gofynnir cwestiwn penodol i aelwydydd am eu sgiliau Cymraeg, a gall y rhai sy’n dymuno cwblhau’r cyfrifiad yn y Gymraeg wneud hynny ar-lein ac ar ffurflen bapur. Mae botymau “Cymraeg” ac “English” i newid rhwng ieithoedd unrhyw bryd ar-lein, ac ar bapur gallwch ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg ar yr un ffurflen.

Bydd canlyniadau ar gael o fewn 12 mis, er y bydd cofnodion personol yn cael eu cloi am 100 mlynedd, i’w cadw’n ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

I gwblhau eich cyfrifiad, neu i wybod sut i gael cymorth, ewch i cyfrifiad.gov.uk neu ffoniwch 0800 169 2021.

Mae Cyfrifiad 2021 yn bwysig nawr – ac ar gyfer cenedlaethau i ddod

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Bonfires #DawnsGlaw – Yn Cydweithio i Ddiogelu ein Cefn Gwlad a’n Gwlad
Erthygl nesaf Young Carer Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc – cefnogi Gofalwyr Ifanc arwrol yng Ngogledd Cymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English