Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’r tîm arloesol yn Wrecsam yn darparu cymorth ar gyfer pobl gyda dementia
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Parking sign
Wrecsam v Chelsea – dydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle
St Mark's Car Park in Wrexham
Maes Parcio Sant Marc wedi’i brynu i’w ailddatblygu
Arall
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mae’r tîm arloesol yn Wrecsam yn darparu cymorth ar gyfer pobl gyda dementia
Y cyngorPobl a lle

Mae’r tîm arloesol yn Wrecsam yn darparu cymorth ar gyfer pobl gyda dementia

Diweddarwyd diwethaf: 2021/05/18 at 2:25 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Physiotherapy
RHANNU

Os ydych chi’n agos gyda rhywun sydd â dementia, byddwch yn gwybod am yr heriau maent yn ei wynebu.

Gall fywyd dydd i ddydd fod yn hynod o anodd i’r unigolion a’u teuluoedd.

Ond nid ydynt ar eu pen eu hunain, ac mae digon o gymorth ar gael yma yn Wrecsam.

Er enghraifft, gall ein tîm Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Perthynol helpu mewn nifer o ffyrdd.

Mae’r tîm yn cynnwys:

  • Therapyddion lleferydd, a all gynnig awgrymiadau a thechnegau i helpu pobl i fynegi eu hunain yn well a gwella eu hyder trwy siarad.
  • Dietegwyr, a all helpu unigolion a’u teuluoedd ddilyn ffordd o fyw iach, a helpu i fynd i’r afael â rhai o sgil effeithiau dietegol cyffredin dementia (e.e. newid mewn chwant bwyd).
  • Ffisiotherapyddion, a all helpu pobl gynnal eu symudedd, cadw’n actif yn gorfforol a lleihau eu risg o ddisgyn.
  • Therapyddion galwedigaethol, a all edrych ar ffyrdd i addasu’r cartref i gynorthwyo unigolion a gofalwyr.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Sut i gael cymorth

Os oes gennych berthynas sy’n byw gyda dementia, ac os ydych yn ystyried sut i gael help gan y tîm, siaradwch gyda’ch meddyg teulu neu Glinig Cof.

Yn ogystal â darparu cymorth gyda lleferydd, diet, symudedd ac addasiadau i’r cartref, gall y tîm hefyd atgyfeirio unigolion a theuluoedd at wasanaethau cymorth eraill.

Dywed Steve Catherall, sy’n gweithio fel Arweinydd Tîm: “Mae’r pandemig coronafeirws wedi gwneud pethau hyd yn oed yn fwy anodd i nifer o deuluoedd, ond rydym yma i helpu.

“Rydym wedi cefnogi bron i gant o bobl gyda dementia a’u teuluoedd yn y 12 mis diwethaf, ac wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol i helpu…hyd yn oed pan mae’r cyfyngiadau wedi golygu llai o ymweliadau i’r cartref.

“Mae byw gyda dementia yn her anferth, ac rydym yn ceisio cefnogi unigolion a theuluoedd cymaint â gallwn ni.”

Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae’r prosiect AHP yno i gefnogi pobl sydd wedi cael diagnosis dementia yn ddiweddar.

“Mae’n cael ei beilota yn Wrecsam, a’r gobaith yw y caiff ei ehangu yn y dyfodol i gynnwys Gogledd Cymru gyfan.

“Mae’n canolbwyntio ar gefnogi lles corfforol a seicolegol unigolion, gwella eu profiad byw o ddydd i ddydd, addasu eu cartrefi a’u hamgylchedd, a chefnogi eu teuluoedd a gofalwyr.

“Rwy’n falch iawn o waith y tîm – mae’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ac yn esiampl arall o’r ffordd mae Wrecsam wedi ymrwymo i helpu pobl sy’n byw gyda dementia.”

Gweithio tuag at fod yn gyngor cyfeillgar i ddementia

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Electric Charging Points Newyddion da wrth i Bwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan fod ar gael yn y Waun a Chanol y Dref
Erthygl nesaf RYDYM YN CHWILIO AM AELODAU ANNIBYNNOL I'N PANEL MAETHU RYDYM YN CHWILIO AM AELODAU ANNIBYNNOL I’N PANEL MAETHU

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parking sign
Wrecsam v Chelsea – dydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle Mawrth 5, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Maes Parcio Sant Marc wedi’i brynu i’w ailddatblygu
Arall Mawrth 4, 2026
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau Mawrth 3, 2026
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor Mawrth 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Parking sign
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Chelsea – dydd Sadwrn yma!

Mawrth 5, 2026
LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English