Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newid Hinsawdd – beth rydym yn ei wneud i leihau ein hôl troed carbon
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Newid Hinsawdd – beth rydym yn ei wneud i leihau ein hôl troed carbon
Y cyngor

Newid Hinsawdd – beth rydym yn ei wneud i leihau ein hôl troed carbon

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 1, 2021 2:50 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Climate Change
RHANNU

Mae Newid Hinsawdd ar ein sianeli newyddion a’n ffrydiau newyddion bob dydd, llifogydd, tanau, tywydd difrifol. Mae hyn nid yn unig yn effeithio arnom ni yma yn Wrecsam ond mae’n broblem fyd-eang ac yn un lle rydym yn benderfynol o wneud ein rhan i wneud gwahaniaeth.

Cynnwys
  • Adeiladau
  • Cludiant a Symudedd
  • Defnydd Tir
  • Caffael (sut yr ydym yn cael ein nwyddau a’n gwasanaethau)

Fe aethom ati i ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol ym Medi 2019 ac ers hynny rydym wedi bod yn gweithio ar bedwar maes allweddol lle gallwn leihau ein hôl troed carbon a dod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Adeiladau

Rydym ni’n berchen ar nifer o adeiladau ac rydym ni’n mynd ymlaen gyda chynlluniau i leihau faint o ynni a ddefnyddir ynddynt.

  • Bydd hyn yn cynnwys rhaglen o 10 ysgol, tair ohonynt yn ysgolion uwchradd mawr, i gyflawni cyfoeth o fanteision o ran gostwng allyriadau carbon o ganlyniad i wresogi ein hadeiladau.
  • Eleni byddwn yn edrych ar wario oddeutu £67,000 yn gosod Systemau Rheoli Adeiladau (BMS) yn rhai o’n hysgolion i fonitro a rheoli gwasanaethau yn effeithiol megis gwresogi, awyru ac aerdymheru. Bydd hyn yn cynnwys rhaglen o 10 ysgol, 3 ohonynt yn ysgolion uwchradd mawr, i gyflawni cyfoeth o fanteision o ran gostwng allyriadau carbon o ganlyniad i wresogi ein hadeiladau.
  • Bydd ysgolion hefyd yn elwa o uwchraddio’r goleuo, rydym wedi cynllunio i osod cynllun goleuo LED mewn 4 ysgol gynradd ac 1 ysgol uwchradd fawr, am gost o fwy na £150,000.
  • O fewn ein depo mawr ar Ffordd Rhuthun byddwn yn edrych ar y posibilrwydd o osod system storio batri i gysylltu â’u system PV solar sy’n bodoli – a fyddai’n costio oddeutu £200,000.
  • Bydd y Depo Amgylchedd yn Ffordd yr Abaty yn ystyried cael system PV Solar i gefnogi ehangu nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar gyfer y fflyd drydan sy’n cynyddu’n barhaus.
  • Byddwn yn gwario £55,000 ar Adeiladau’r Goron a adnewyddwyd, gosodir system PV mawr, a fydd yn cefnogi’r gostyngiad mewn allyriadau carbon o’r adeilad.

Cludiant a Symudedd

  • Mae gennym ni nifer o gerbydau trydan eisoes ac mae ein hadran amgylchedd newydd gynyddu’r nifer o gerbydau drwy brynu cerbydau trydan newydd gan gynnwys lori bin newydd sy’n un drydan.
  • Mae’r fflyd amgylchedd yn un o’r rhai mwyaf yn ein sefydliad a gellir eu gweld ar ein ffyrdd bob dydd felly mae hyn yn gam enfawr ymlaen!
  • Fe allwch ddarllen mwy am ein hychwanegiadau diweddaraf yma.
  • Rydym yn cynyddu’r nifer o bwyntiau gwefru sy’n hygyrch i’r cyhoedd.

Defnydd Tir

Rydym yn berchen ar lawer o dir ac adeiladau cysylltiedig ledled y fwrdeistref sirol ac mae sicrhau eu bod o ansawdd uchel a chynnig yr amgylchedd gorau ar gyfer ecoleg yr ardal yn bwysig.

Mae coed yn ased pwysig ac eang ym mhob cymuned a byddwn yn parhau i gynyddu plannu coed a phlannu rhai cyfwerth neu well wrth i’r coed ddod i ddiwedd eu bywyd naturiol. Byddwn hefyd yn plannu ardaloedd coetir a chefnogi grwpiau a sefydliadau sydd eisiau sefydlu eu gerddi cymunedol eu hunain.

Trwy wneud hyn byddwn yn gwrthbwyso unrhyw garbon a gynhyrchwn a dechrau gweld newid.

Caffael (sut yr ydym yn cael ein nwyddau a’n gwasanaethau)

Efallai mai hwn yw’r rhan fwyaf canolog ein cynlluniau ond yr un na fydd y cyhoedd yn ei weld – prynu nwyddau a gwasanaethau, o fwyd ar gyfer prydau ysgol a cherbydau sbwriel i bapur ac inc. Rhaid iddynt oll gael eu cynhyrchu a’u datblygu a byddwn yn newid y ffordd rydym yn edrych ar gontractau i ystyried y gwerth y gall cynigwyr ei ddarparu i gefnogi ein targedau carbon niwtral.

Dod yn garbon niwtral i ostwng ein heffaith ar newid hinsawdd.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Rydym wedi dod yn bell, hyd yn oed yn ystod y flwyddyn fwyaf heriol a wynebodd y Cyngor erioed.

Rydym yn benderfynol o barhau gyda’r gwaith hwn i leihau ein hôl troed carbon ac fe fyddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â’n partneriaid yn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Uchelgais Economaidd i sicrhau fod hyn yn cael ei wneud mewn dull cynaliadwy a reolir yn dda.”

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Flu Jab “Ni fu erioed mor bwysig” – nyrsys yn annog pobl i gael eu brechlyn ffliw y gaeaf hwn
Erthygl nesaf Order and Collect Wythnos Llyfrgelloedd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English