Mae perchennog salon harddwch ac ewinedd ar Stryt Caer, Wrecsam wedi cael dirwy o £1,000 am gadw ei busnes ar agor tra bod y wlad dan glo ac ar Lefel Rhybudd 4.
Digwyddodd y drosedd ym mis Ionawr eleni.
Cafwyd Natalie Hewitt, 32, sy’n rhedeg Smooch Nails & Beauty, yn euog yn llys yr ynadon a rhoddwyd dirwy o £1,000 iddi a’i gorchymyn i dalu costau o £1,000.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Dywedodd Roger Mapleson, yr Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Yn ystod y cyfnod clo, roedd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i nifer o fusnesau gau eu drysau i gwsmeriaid er mwyn cadw eu hunain a phawb o’u hamgylch yn ddiogel rhag Covid-19.
“Bu i’r mwyafrif helaeth o fusnesau gau yn ôl y gofyn, gan ddioddef colledion sylweddol yn y broses. Canfuwyd bod llond llaw o berchnogion busnesau wedi aros ar agor ac anwybyddu’r gofyn i gau, a arweiniodd at roi hysbysiad cosb benodedig iddynt. Yn yr achos hwn, ni thalwyd y gosb, felly nid oedd gan yr Awdurdod unrhyw ddewis ond dwyn achos yn erbyn y perchennog.”
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]