Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut ydym yn ymateb i dywydd eithafol ac argyfyngau eraill?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Sut ydym yn ymateb i dywydd eithafol ac argyfyngau eraill?
Arall

Sut ydym yn ymateb i dywydd eithafol ac argyfyngau eraill?

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 5, 2022 10:00 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Seever weather
RHANNU

Wrth i’r gaeaf drymhau mae’n dod yn fwy tebygol y cawn dywydd eithafol rywbryd neu’i gilydd – gan gynnwys stormydd.

Cynnwys
  • Cyngor Wrecsam – protocol ymateb i argyfwng
    • Beth yw argyfwng?
    • Pwy sy’n medru cyhoeddi argyfwng?
    • Sut ydym yn ymateb mewn argyfwng?
    • Pa rif allwch chi ei ffonio?
    • Pwy fydd yn ateb eich galwad?
    • Peidiwch â ffonio swyddogion unigol
    • Rhagolygon o dywydd garw
    • Sut i roi gwybod am doriadau trydan
    • Tri pheth sy’n helpu mewn argyfwng

Felly sut mae Cyngor Wrecsam yn paratoi ar gyfer tywydd eithafol ac argyfyngau eraill – ac ymateb iddynt?

Mae ein ‘protocol ymateb i argyfwng’ yn esbonio’r hyn a wnawn a ffyrdd y gallwch chi helpu drwy roi gwybod am broblemau gan ddefnyddio’r rhifau ffôn cywir a rhoi gwybodaeth glir.

Byddwn yn cyhoeddi’r rhifau ffôn perthnasol os cyfyd argyfwng, ond os hoffech chi wneud nodyn ohonynt o flaen llaw, weler isod…

Cyngor Wrecsam – protocol ymateb i argyfwng

Severe weather

Beth yw argyfwng?

Argyfwng yw unrhyw ddigwyddiad neu sefyllfa sy’n bygwth creu niwed difrifol i les pobl neu ddifrod difrifol i’r amgylchedd neu ddiogelwch y Deyrnas Gyfunol – rhywbeth fel rhyfel neu derfysgaeth (Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004).

Nid gwasanaeth brys mo’r Cyngor, ond fe’i diffinnir yn ‘ymatebwr categori un’ o dan y Ddeddf, ac mae’n gweithio gydag ymatebwyr eraill i reoli sefyllfaoedd.

Pwy sy’n medru cyhoeddi argyfwng?

Fel arfer, y gwasanaethau brys (hynny yw, yr heddlu) a fydd yn cyhoeddi argyfwng.

Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn medru gwneud hynny hefyd os oes angen, drwy’r Tîm Rheoli Ymateb i Argyfwng.

Sut ydym yn ymateb mewn argyfwng?

  • Uwch-reolwyr yn meithrin cyswllt â phartneriaid.
  • Timau rheng flaen ar waith ar lawr gwlad.
  • Rhannu gwybodaeth â’r cyhoedd.
  • Gweithredu’r trefniadau ar gyfer delio â galwadau ffôn mewn argyfwng.

Pa rif allwch chi ei ffonio?

I roi gwybod am broblem sy’n gysylltiedig â’r argyfwng a gyhoeddwyd, ffoniwch:

Oriau swyddfa (8.30am-5pm) 01978 298989

Y tu allan i oriau 01978 292055

Gwaith trwsio ar dai tenantiaid y Cyngor (24 awr) 01978 298993

Peidiwch â ffonio swyddogion unigol.

Os oes bygythiad enbyd i fywyd rhywun, ffoniwch 999 bob tro.

Pwy fydd yn ateb eich galwad?

Yn ystod oriau swyddfa bydd staff ein canolfan gyswllt yn ateb y ffôn.

Ar ôl 5pm ac ar y penwythnos, bydd galwadau’n mynd drwodd naill ai i Delta (ein darparwr y tu allan i oriau) neu ein canolfan gyswllt os penderfynwyd darparu staff ychwanegol.

Caiff yr wybodaeth a rowch chi ei rhannu â thimau yn y rheng flaen er mwyn eu helpu i ymateb.

Peidiwch â ffonio swyddogion unigol

Peidiwch â ffonio swyddogion unigol i roi gwybod am broblemau.

Os defnyddiwch chi’r rhifau iawn bydd goruchwylwyr yn fwy rhydd i ganolbwyntio ar gydlynu pethau ar lawr gwlad – rhoi ein gweithlu, ein peiriannau a’n contractwyr ar waith yn y mannau ble mae’r angen mwyaf.

Storm damage

Rhagolygon o dywydd garw

Er nad yw tywydd garw’n argyfwng o reidrwydd, bydd Cyngor Wrecsam yn ymateb serch hynny.

Sut fyddwn ni’n rheoli hyn?

  1. Derbyn y rhagolygon. Tîm rheoli argyfyngau mewnol yn cwrdd i sicrhau fod adnoddau ar gael ar gyfer ymateb ac adferiad.
  2. Rhoi’r tîm ymateb cychwynnol ‘ar waith’. Mae’r gweithwyr sy’n ateb y ffôn yn trosglwyddo gwybodaeth i oruchwylwyr a gwneud cofnod o broblemau. Mae’r goruchwylydd ar alwad yn rhydd i reoli’r gweithlu ac adnoddau.
  3. Rhannu gwybodaeth a chyfathrebu’n rheolaidd ynglŷn â meysydd gwaith o flaenoriaeth, yn ogystal â chyhoeddi rhybuddion am y tywydd ar y pryd.

Sut i roi gwybod am doriadau trydan

Dylid rhoi gwybod am unrhyw doriadau trydan drwy ffonio 105.

Mae Powercut 105 yn wasanaeth am ddim a fydd yn eich cysylltu â gweithredwr yn eich rhwydwaith lleol am gymorth a chefnogaeth.

Tri pheth sy’n helpu mewn argyfwng

  • Ffonio’r rhif iawn.
  • Rhoi gwybodaeth glir.
  • Bod yn amyneddgar.

Diolch.

Rhannu
Erthygl flaenorol LFD Mae Citiau Profion Llif Unffordd bellach ar gael mewn rhagor o leoliadau
Erthygl nesaf Junior Gym Ymestyn Campfa Iau am Ddim i fis Mawrth 2022!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

wall proposal
ArallPobl a lle

Cyngor Wrecsam yn parhau i gydweithio â Solar Windows ar Fenter Ffenestri a Drysau Fawr

Mehefin 23, 2026
housing development plan
Arall

Ymgynghoriad cyhoeddus ar ailddatblygu Ffordd Rhosddu i ddechrau heddiw

Mai 18, 2026
Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos
ArallPobl a lle

Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos

Mawrth 17, 2026
'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
30
Arall

‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau

Chwefror 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English