Yn dilyn problemau gyda system sain Siambr y Cyngor rydym ni o’r diwedd wedi archebu microffonau newydd ac o 13 Chwefror byddwch yn gallu ein clywed ni’n eglur yn ystod cyfarfodydd – pa un ai ydych chi yn yr ystafell neu’n gwylio’r gweddarllediad.
Meddai’r Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae’n rhaid i ni fod yn ofalus iawn wrth wario arian ond, y tro hwn ac er lles y cyhoedd, roeddem yn teimlo nad oedd gennym ni ddewis heblaw prynu microffonau newydd.”
Gallwch wylio cyfarfod nesaf y Bwrdd Gweithredol ar 13 Chwefror am 10am.
I wylio’r gweddarllediad ewch i https://wrexham.public-i.tv/core/portal/home.
Bydd y rhaglen ar gael ar ein gwefan yma.
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]