Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wythnos marchnadoedd gwych Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Wythnos marchnadoedd gwych Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Wythnos marchnadoedd gwych Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 5, 2022 10:37 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Victorian Market
RHANNU

Yr wythnos hon bydd PUMP o wahanol farchnadoedd cynhwysion crefftus a chrefftau Nadolig yng nghanol dinas Wrecsam!

Mae newydd-ddyfodiad yn ogystal â’r hen ffefrynnau yn rhan o’r farchnad wych hon.

  • Marchnad Fictoraidd, 7 Rhagfyr
  • Coleg Cambria, Marchnad Nadolig, 6-8 Rhagfyr
  • Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig, Tŷ Pawb, 10 Rhagfyr
  • Marchnad Stryd Wrecsam, Stryt Henblas, 10 Rhagfyr
  • Gŵyl y Gaeaf a Marchnad Nadolig Wrecsam, Sgwâr y Frenhines, 10-11 Rhagfyr

Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.

Bydd y digwyddiadau hyn yn cynnwys cerddoriaeth ac adloniant fyw, mins peis a gwin cynnes a llwyth o gynnyrch gan grefftwyr medrus.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio: “Hoffwn ddiolch i’r holl sefydliadau sydd wedi helpu i ddod â’r marchnadoedd hyn i Wrecsam. Maen nhw’n dod ag ymdeimlad Nadoligaidd i ganol y ddinas gyda’r gobaith y bydd miloedd o ymwelwyr yn dod i fwynhau’r dathliadau gan dreulio amser mewn siopau a llefydd lletygarwch lleol hefyd.”

Mae Mandy Hughes, y ‘Doolallylady’ yn edrych ymlaen at osod ei stondin: “Mae’n wych siarad gydag aelodau’r cyhoedd, yn enwedig cyd-grefftwyr. Mae awyrgylch gyfeillgar go iawn a dwi’n gwerthfawrogi yn ofnadwy pan fydd pobl yn prynu’r crefftau dwi ‘di greu gyda llaw, mae’n teimlo fel bod rhan ohona i yng nghartrefi ar hyd a lled Wrecsam!”

Meddai ei merch, Heidi o Heidi Lou Jewellery: “Dwi wrth fy modd yn gweld ein dinas mor brysur, mae’n dod â phobl ynghyd. Mae gan y Farchnad Stryd ymdeimlad teuluol go iawn gyda chyfeillgarwch hyfryd ymysg y stondinwyr. Mae’n wych cael Right Stuff Catering a’i bwyd stryd Jamaicaidd.”

Os byddwch yn ymweld ag un (neu bob un) o’r marchnadoedd wythnos nesaf gwnewch yn siŵr i alw yn siopau, tafarndai a chaffis Wrecsam yn ogystal â’n marchnadoedd parhaol i ddod o hyd i fwy o syniadau am anrhegion a chynigion tymhorol!

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ty Pawb Noson Gomedi’r Nadolig yn Nhŷ Pawb 16 Rhagfyr
Erthygl nesaf Victorian Market Peidiwch ag Anghofio’r Farchnad Nadolig Fictoraidd yr Wythnos Hon

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Medi 21, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Tennis o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
DigwyddiadauPobl a lle

Tennis o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref

Medi 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English