Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyngor am gasgliadau bin yn ystod wythnos gyntaf y streic (25-29 Medi)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cyngor am gasgliadau bin yn ystod wythnos gyntaf y streic (25-29 Medi)
Y cyngor

Cyngor am gasgliadau bin yn ystod wythnos gyntaf y streic (25-29 Medi)

Diweddarwyd diwethaf: 2023/09/22 at 2:02 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
25-29 Medi
RHANNU
  • Rhowch eich ailgylchu allan ar eich diwrnod casglu arferol (gan gynnwys gwastraff bwyd).
  • Os na fydd wedi’i gasglu erbyn diwedd y dydd, ewch ag ef yn ôl i mewn.
  • Os gallwch chi, ewch â rhywfaint o’ch ailgylchu i’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
  • Peidiwch â rhoi eich bin du allan.
  • Peidiwch â rhoi eich bin gwyrdd allan.

Sylwch, os na fyddwn yn llwyddo i gasglu eich ailgylchu ar eich diwrnod casglu arferol, ni fyddwn yn gallu dychwelyd ar ei gyfer y diwrnod canlynol (peidiwch â’i riportio fel casgliad bin a gollwyd).

Cynnwys
Beth fyddwn ni’n ei wneud yn ystod yr wythnos gyntaf?Beth ddylech chi ei wneud yn ystod yr wythnos gyntaf?Pam na fydd biniau du yn cael eu casglu yn ystod yr wythnos gyntaf?Beth sy’n digwydd gyda biniau gwyrdd?Pam mae Unite yn streicio?

Bydd aelodau Unite yn Wrecsam yn streicio eto am dair wythnos gan ddechrau dydd Llun, 25 Medi.

Cynhaliodd yr undeb llafur streic am bythefnos yn gynharach yn y mis, a effeithiodd ar gasgliadau bin ar draws y fwrdeistref sirol.

Roedd criwiau casglu sbwriel yn brin o weithwyr a chafodd lorïau bin drafferth gadael eu depo ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam oherwydd bod nifer fawr o brotestwyr yno.

Mae’r Cyngor yn disgwyl gweld amhariad tebyg y tro hwn, ac mae’n cynllunio i geisio rheoli gwasanaethau trwy dair wythnos anodd.

Beth fyddwn ni’n ei wneud yn ystod yr wythnos gyntaf?

Yn ystod wythnos gyntaf y streic (25-29 Medi), bydd Cyngor Wrecsam yn:

  • Blaenoriaethu casgliadau ailgylchu.
  • Atal casgliadau bin du a bin gwyrdd.
  • Cysylltu â’r Heddlu a chynrychiolwyr Unite i helpu i sicrhau bod gweithgarwch y tu allan i’r depo yn ddigynnwrf a chyfreithlon, a bod lorïau bin yn gallu gadael.
  • Cadw oriau agor estynedig mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Beth ddylech chi ei wneud yn ystod yr wythnos gyntaf?

Yn ystod wythnos gyntaf y streic:

  • Rhowch eich ailgylchu allan ar eich diwrnod casglu arferol (gan gynnwys gwastraff bwyd).
  • Os na fydd wedi’i gasglu erbyn diwedd y dydd, ewch ag ef yn ôl i mewn.
  • Os gallwch chi, ewch â rhywfaint o’ch ailgylchu i’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
  • Peidiwch â rhoi eich bin du allan.
  • Peidiwch â rhoi eich bin gwyrdd allan.

Sylwch, os na fyddwn yn llwyddo i gasglu eich ailgylchu ar eich diwrnod casglu arferol, ni fyddwn yn gallu dychwelyd ar ei gyfer y diwrnod canlynol (peidiwch â’i riportio fel casgliad bin a gollwyd).

Pam na fydd biniau du yn cael eu casglu yn ystod yr wythnos gyntaf?

Dros yr wythnos diwethaf (18-22 Medi), mae ein criwiau wedi gweithio’n galed i sicrhau bod biniau du ar draws y fwrdeistref sirol yn cael eu gwagio.

Mae hyn yn golygu na ddylai unrhyw un fod yn cael trafferth â biniau du llawn ar hyn o bryd – felly mae’n gwneud synnwyr i ni ganolbwyntio ar gasglu ailgylchu yn ystod wythnos gyntaf y streic.

Mae’n bosibl y bydd ein canolbwynt yn newid yn ystod yr ail wythnos, ond byddwn ni’n rhannu mwy o wybodaeth dros y dyddiau nesaf.

Sylwch, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi os bydd cynlluniau’n newid yn ystod yr wythnos gyntaf hefyd, oherwydd bod effaith streiciau’n anodd ei rhagweld.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, Cyngor Wrecsam: “Yn aml, ni fydd yr effaith ar gasgliadau’n glir tan y diwrnod, oherwydd bydd llawer yn dibynnu ar faint o weithwyr fydd ar gael a pha mor hawdd fydd hi i’n lorïau adael y depo os bydd protestwyr y tu allan.

“Oherwydd ein bod wedi canolbwyntio ar wagio biniau du dros yr wythnos diwethaf, mae’n gwneud synnwyr i flaenoriaethu ailgylchu yn ystod wythnos gyntaf y streic, a byddwn yn gwneud popeth a allwn i gasglu eich ailgylchu.

“Fodd bynnag, byddwch yn amyneddgar os na allwn ni eich cyrraedd chi, oherwydd mae’r amgylchiadau’n anodd iawn.

“Os gallwch chi, byddem yn eich annog chi i fynd â rhywfaint o’ch ailgylchu i’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Mae’r safleoedd yn Lôn y Bryn, Brymbo a Phlas Madoc ar agor tan 8pm bellach.

“Rydym yn sylweddoli bod yr amhariad hwn yn rhwystredig iawn, ond rydym yn gweithio’n galed i geisio rheoli gwasanaethau. Hoffem ddiolch i bawb am fod mor amyneddgar.”

Beth sy’n digwydd gyda biniau gwyrdd?

Mae’r Cyngor yn ymwybodol o bryderon am gasgliadau gwastraff gardd, sydd wedi’u hoedi ers i’r gweithredu diwydiannol ddechrau.

Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn teimlo’n rhwystredig a byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda chwsmeriaid pan fydd gennym ddealltwriaeth gliriach o effaith y streiciau.

Pam mae Unite yn streicio?

Mae aelodau Unite yn Wrecsam yn streicio fel rhan o anghydfod tâl cenedlaethol y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol.

Caiff tâl gweithwyr y Cyngor ei drafod ar lefel genedlaethol rhwng y tri undeb llafur – Unite, GMB ac Unsain – a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ogystal â Chymdeithas Llywodraeth Leol y DU.

Mae Wrecsam yn ymrwymedig i weithio gydag undebau llafur ond mae wedi’i gwneud yn glir bod yn rhaid i unrhyw drafodaethau gael eu cynnal ar lefel genedlaethol dan y trefniadau cydfargeinio arferol.

Ni all Cyngor Wrecsam negydu gydag Unite ar y mater cyflog cenedlaethol hwn.

Rhannu
Erthygl flaenorol Lasting power of attorney Gall bod ag Atwrneiaeth Arhosol roi tawelwch meddwl
Erthygl nesaf Digwyddiad i ddathlu bod ein holl Barciau Gwledig wedi ennill statws Meysydd Chwarae Cymru Digwyddiad i ddathlu bod ein holl Barciau Gwledig wedi ennill statws Meysydd Chwarae Cymru

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg Awst 14, 2025
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle Awst 13, 2025
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 13, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor

Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan

Awst 13, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 12, 2025
Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English