Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ymweliad Kronospan – ei gynlluniau ar gyfer Sero Net a buddsoddiad yn y dyfodol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ymweliad Kronospan – ei gynlluniau ar gyfer Sero Net a buddsoddiad yn y dyfodol
Arall

Ymweliad Kronospan – ei gynlluniau ar gyfer Sero Net a buddsoddiad yn y dyfodol

Diweddarwyd diwethaf: Mai 28, 2024 2:25 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Kronospan
RHANNU

Mae Kronospan, un o gyflogwyr mwyaf Wrecsam, wedi bod yn gweithredu yn y Waun ers y 1970au a dyma’r busnes diweddaraf yn yr ardal i gael ymweliad gan yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Nigel Williams.

Clywodd Nigel yn uniongyrchol sut mae’r cwmni, sydd wedi buddsoddi dros £500 miliwn yng nghyfleuster y Waun ers iddo agor, ar hyn o bryd yn edrych ar fuddsoddiadau pellach o fwy na £200 miliwn.

Eglurodd Chris Emery, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Ben Spruce, Prif Swyddog Ariannol, fod ganddynt gynlluniau ar gyfer gosodiadau solar newydd ar draws gofod to’r warws a allai gynhyrchu hyd at 7Mwp. Mae cynlluniau hefyd ar gyfer system gwres a phŵer cyfun biomas i ddarparu ynni gwres ar gyfer y prosesau cynhyrchu o ynni adnewyddadwy ochr yn ochr â chynhyrchu trydan.

Yn ystod taith o amgylch y safle gwelodd Nigel brosesau’r economi gylchol yn trawsnewid pren wedi’i ailgylchu yn baneli pren o ansawdd uchel, carbon negatif a’r storfa bwrdd awtomataidd o’r radd flaenaf a gwblhawyd yn ddiweddar, gan ddangos dyfodol uwch-dechnoleg i’r cwmni.

Yn dilyn yr ymweliad diolchodd Nigel i Ben a Chris am eu hamser a dywedodd, “O safbwynt y cyngor mae’n wych gweld cwmni lleol gyda chynlluniau buddsoddi uchelgeisiol a fydd yn sicrhau cyflogaeth leol ac yn cefnogi datgarboneiddio Wrecsam.”

Roedd Ben a Chris yn gwerthfawrogi’r ymweliad ac yn cytuno, “Roedd yn gyfle gwych i drafod ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol sy’n fuddsoddiad sylweddol yn yr ardal ac sy’n ein cadw’n gadarn ar ein llwybr i sero net. Edrychwn ymlaen at rannu’r cynlluniau hyn gyda’n grŵp budd-ddeiliaid ehangach yn y misoedd nesaf.”

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Mae cynaliadwyedd yn ganolog i’r Archwood Group

Rhannu
Erthygl flaenorol A oes gennych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, alergedd, anoddefiad bwyd neu glefyd seliag? A oes gennych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, alergedd, anoddefiad bwyd neu glefyd seliag?
Erthygl nesaf Wal Goch Gŵyl Wal Goch i Garwyr Pêl-droed

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

wall proposal
ArallPobl a lle

Cyngor Wrecsam yn parhau i gydweithio â Solar Windows ar Fenter Ffenestri a Drysau Fawr

Mehefin 23, 2026
housing development plan
Arall

Ymgynghoriad cyhoeddus ar ailddatblygu Ffordd Rhosddu i ddechrau heddiw

Mai 18, 2026
Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos
ArallPobl a lle

Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos

Mawrth 17, 2026
'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
30
Arall

‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau

Chwefror 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English