Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dirwy o £10,000 i Rock the Park (Wrecsam) Cyf
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dirwy o £10,000 i Rock the Park (Wrecsam) Cyf
Y cyngorPobl a lle

Dirwy o £10,000 i Rock the Park (Wrecsam) Cyf

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 8, 2024 9:10 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Estyn
RHANNU

Ddydd Mawrth 2 Gorffennaf cafodd Rock the Park (Wrecsam) Cyf ddirwy o £20,000 am greu gormod o sŵn yn yr ŵyl a gynhaliwyd ym mis Awst 2023. Gyda chostau a gordal i ddioddefwyr ar ben hynny, bydd yn rhaid i’r cwmni dalu cyfanswm o £16,381. Nid oedd neb o’r cwmni’n bresennol yn y llys i bledio’u hachos a phasiwyd yr euogfarn yn eu habsenoldeb.

Dechreuwyd ymchwiliad yn sgil y digwyddiad a gynhaliwyd dros benwythnos yn 2023, lle bu Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor yn cofnodi lefelau’r sŵn, a oedd ddwywaith cymaint â’r terfyn a bennwyd yn y drwydded ar gyfer y band tecno o’r Almaen, Scooter, yr artistiaid olaf ar y llwyfan ar y nos Wener.

Pwyllgor trwyddedu’r Cyngor a bennodd y terfynau sŵn wrthi roi trwydded i’r digwyddiad, ar sail pryderon ynglŷn â thrigolion y tai gerllaw a gafodd eu haflonyddu gan ddigwyddiadau yn y gorffennol, ac fe gytunodd y trefnwyr fodloni’r amodau er mwyn cael trwydded.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Gwarchod y Cyhoedd a Chynllunio, “Mae’n siomedig na fedrodd trefnwyr y digwyddiad osgoi peri aflonyddwch i drigolion lleol ar y nos Wener gyda cherddoriaeth oedd yn rhy swnllyd, er gwaethaf yr amodau penodol a osododd Pwyllgor Trwyddedu’r Cyngor. Mae’r amodau hynny’n rhai pwrpasol sydd wedi’u gosod am resymau da, ac yn bennaf i warchod y bobl hynny sy’n byw’n agos at y digwyddiad.

“Mae’n braf gwybod fod hwn yn achos prin a bod y rhan fwyaf o drefnwyr yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif ac yn cynnal eu digwyddiadau mewn ffordd broffesiynol, heb achosi niwsans i neb. Mae’r Cyngor yn cefnogi digwyddiadau sy’n dod â budd i’r gymuned ac yn helpu i hyrwyddo Wrecsam fel lle gwych i fwynhau amrywiaeth fawr o atyniadau diwylliannol. Rydw i’n ffyddiog bod yr achos prin yma’n dangos nad yw’r Cyngor yn petruso cyn gweithredu pan mae angen.”

O bryd i’w gilydd, nid yw digwyddiadau fel hyn yn bodloni disgwyliadau’r cwsmeriaid ac weithiau cânt eu canslo neu’u gohirio heb fod y bobl sydd wedi prynu tocynnau’n gwybod eu hawliau.

Os ydych chi mewn sefyllfa felly, ffoniwch Wasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth i gael cyngor yn rhad ac am ddim. Ffoniwch 0808 223 1144 (neu 0808 223 1133 yn Saesneg) neu ewch i’r wefan.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Cynhelir yr Ŵyl ‘Spirit’ Ryngwladol yn Sgwâr y Frenhines, ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf

Rhannu
Erthygl flaenorol Any Questions Archebwch eich tocynnau ar gyfer rhaglen “Any Questions?” BBC Radio 4
Erthygl nesaf Cynllun grant newydd ar gyfer siopau canol y ddinas ac eiddo masnachol yn Wrecsam Cynllun grant newydd ar gyfer siopau canol y ddinas ac eiddo masnachol yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English