Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cael dweud eich dweud ar y diweddariadau arfaethedig i drefniadau traffig yng nghanol dinas Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cael dweud eich dweud ar y diweddariadau arfaethedig i drefniadau traffig yng nghanol dinas Wrecsam
Y cyngorPobl a lle

Cael dweud eich dweud ar y diweddariadau arfaethedig i drefniadau traffig yng nghanol dinas Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 10, 2024 3:02 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Tourism
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam yn ystyried diweddariadau posib i Orchmynion Rheoleiddio Traffig (GRhT) yng nghanol y ddinas, gan gynnwys rheolau strydoedd unffordd, mannau parcio i bobl anabl, parthau i gerddwyr a pharcio ar y stryd.

Y nod yw helpu i gadw cerddwyr a gyrwyr yn ddiogel, ac er y bydd nifer o’r GRhT a ddiweddarwyd ond yn atgyfnerthu trefniadau presennol, byddai rhai newidiadau ar hyd rhai ffyrdd a strydoedd pe bai’r cynigion yn cael eu mabwysiadu.

Mae’r newidiadau arfaethedig yn cynnwys:

  • ‘Bolardiau codi a gostwng’ a reolir yn electronig i gyfyngu mynediad i Stryt Efrog.
  • Mannau parcio estynedig ar Stryt Efrog, a fydd yn cael eu dynodi fel mannau i dacsis.
  • Traffig unffordd ar hyd rhannau o Allt y Ficerdy, Stryt yr Allt a Stryt y Rhaglaw.
  • Newid y cilfannau ar Ffordd Rhosddu (y tu allan i fanc Nat-West) a Stryt Holt (drws nesaf i Tŷ Pawb) i fod yn fannau parcio i bobl anabl.

Mae’r Cyngor yn ysgrifennu at drigolion a busnesau sydd ger y ffyrdd a effeithir, ond maent hefyd yn gwahodd y cyhoedd i gysylltu gydag unrhyw safbwyntiau. Anfonwch e-bost at citycentretraffic@wrexham.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno safbwyntiau yw Awst 9.

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Phriffyrdd Cyngor Wrecsam: “Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig o gymorth i sicrhau symudiad diogel cerbydau a cherddwyr, ac yn chwarae rhan bwysig wrth gadw canol y ddinas i redeg yn esmwyth.

“Mae angen diweddaru rhai o’r GRhT yn y ddinas i adlewyrchu newidiadau yn y ffordd mae pobl yn teithio ac yn symud o amgylch y lle, a dyna pam ein bod yn edrych ar y cynigion hyn.

“Os ydych eisiau gwybod mwy neu os oes genych unrhyw sylwadau, cysylltwch.

“Fel dinas uchelgeisiol a blaengar, mae’n hanfodol bod gennym drefniadau traffig diogel ac effeithiol sydd o gymorth wrth fodloni anghenion busnesau, gweithwyr, gyrwyr anabl, defnyddwyr tacsis, cerddwyr a phawb sy’n ymweld â Wrecsam.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Cycling Digwyddiad teithio cynaliadwy i fusnesau lleol ar 17 Gorffennaf – rhowch nodyn yn y dyddiadur!
Erthygl nesaf Bydd cefnogwyr pêl-droed a pheillwyr yn cael cic allan o furlun 'enfawr' diweddaraf Wrecsam! Bydd cefnogwyr pêl-droed a pheillwyr yn cael cic allan o furlun ‘enfawr’ diweddaraf Wrecsam!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English