Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr
FideoPobl a lleY cyngor

Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 4, 2025 11:37 am
Rhannu
Darllen 3 funud
RHANNU

Gan ddod â natur a phobl at ei gilydd, mae ein parciau gwledig yn haeddu cael eu dathlu!

Gyda chyllid gan grant Llywodraeth Cymru – Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – mae parciau gwledig Wrecsam wedi cael eu ffilmio i greu casgliad o fideos.

Mae’r fideos hyn yn rhoi cipolwg i chi o’r hyn sydd gan natur i’w gynnig ar draws y fwrdeistref sirol – boed yn dro bach hamddenol, rhedeg, beicio, neu bicnic gyda’r teulu, mae parciau gwledig Wrecsam yn cynnig mannau anhygoel ar gyfer y cyfan!

Mae pob parc yn cynnig rhywbeth unigryw: ewch i weld yr anifeiliaid bach ac Afon Dyfrdwy ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr, darganfyddwch gyfleoedd beicio ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, neu os ydych chi’n teimlo’n ddewr, y trac BMX ym Mharc Ponciau. Ewch i weld yr hwyaid ym Mharc Gwledig Stryt Las a Pharc Acton, neu gwnewch ychydig o ymarfer corff yn yr awyr iach yn y gampfa awyr agored ym Mharc Bellevue. Mwynhewch dro hamddenol ar hyd y llwybrau tarmac gwastad troellog mewn llawer o barciau, gadewch y llwybr i archwilio corneli cudd y goedwig ym Mharc Gwledig Dyffryn Moss, neu dringwch i gopa’r bryn ym Mharc Gwledig Bonc yr Hafod i gael golygfeydd panoramig. Beth bynnag fo’ch chwaeth, mae’r parciau’n cynnig rhywbeth at ddant pawb.

Mae ceidwaid parciau, tîm mannau agored a gwasanaethau stryd Cyngor Wrecsam yn treulio oriau lawer yn cynnal a chadw parciau gwledig hardd Wrecsam fel y gall ymwelwyr eu mwynhau drwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, yr aelod arweiniol dros wasanaethau amgylcheddol: “Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau gwylio ein fideos o’r parciau a’u bod yn eich ysbrydoli i fynd allan i’r awyr agored yn fuan. Efallai fe welwch rywbeth newydd yn y fideos nad ydych wedi’u gweld yn eich parc lleol o’r blaen, neu efallai y byddwch yn gwneud trefniadau i ddarganfod parc newydd yr haf hwn. P’un a ydych yn rhywun lleol sy’n mynd yn aml neu’n ymwelydd newydd, mae’r parciau yn aros i’ch croesawu. Rydym yn gobeithio y gwnewch chi fwynhau eich ymweliad!”

Mae pob fideo ar gael ar dudalen parciau a chefn gwlad ar wefan Cyngor Wrecsam.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol The Mayor of Wrexham, Councillor Tina Mannering Gwasanaeth Dinesig y Maer – y Sul yma yn Eglwys San Silyn
Erthygl nesaf 9000 Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English