Mae ein staff yn y timau gwasanaethau llyfrgell ledled Wrecsam yn mynd yr ail filltir er mwyn cynnig amserlen lawn o weithgareddau i’r cymunedau lleol.
Heddiw, byddwn yn edrych ar yr hyn sydd ar y gweill i’r rhai sy’n ymweld â llyfrgell Rhiwabon.
Crefftau ac adeiladu
Bob dydd Llun, gall plant ddod draw i ymuno â’r Clwb Lego rhwng 3.15 a 4.15pm.
Mae’r sesiynau hyn yn helpu plant i ddysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn eu dysgu sut i weithio a rhyngweithio ag eraill. Trwy ffordd o ddysgu sy’n llawn hwyl, gall plant ddatblygu sgiliau meddwl creadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a datrys problemau.
Mae’r sesiynau yn addas ar gyfer plant 4 oed a hŷn ac nid oes cost am fynychu. Nid oes angen cadw lle, dim ond galw heibio a chymryd rhan.
I’r oedolion, mae Grŵp Gwau a Sgwrsio wythnosol bob dydd Gwener rhwng 2 a 4pm. Yma, gallwch gael sgwrs tra byddwch yn cwblhau prosiect gwau neu grosio sydd gennych.
P’un a ydych yn gwau, crosio, brodio, croesbwytho neu’n mwynhau math arall o grefft nodwyddau, mae croeso mawr i chi. Mae te a choffi yn cael eu cynnig.
Darllenwyr brwd i siaradwyr Cymraeg
Os hoffech ymarfer siarad Cymraeg mewn lleoliad hamddenol ac anffurfiol dros baned, cynhelir sesiynau Siarad Cymraeg bob dydd Llun rhwng 1.45 a 2.45pm.
Mae’r sesiynau’n ddelfrydol i ddechreuwyr ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr iaith.
Nid oes cost am fynychu ac nid oes angen cadw lle ymlaen llaw. Bydd te a choffi hefyd yn cael eu cynnig.
Os ydych yn hoffi darllen a sgwrsio am lyfrau, mae yna grŵp perffaith i chi. Ar ddydd Mercher olaf pob mis, rhwng 2 a 3pm, mae Darllenwyr Rhiwabon yn cwrdd i ddod â darllenwyr brwd o’r un anian at ei gilydd.
Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim sy’n agored i bawb gyda the a choffi yn cael eu cynnig.
Dod at ein gilydd fel cymuned
Mae asiantau cymunedol yn gweithio gydag unrhyw un dros 50 oed ac sy’n byw yn Wrecsam i’w cefnogi i wneud dewisiadau gwybodus am anghenion y presennol a’r dyfodol.
Gallant eich helpu i deimlo’n fwy annibynnol, diogel ac wedi’ch gofalu amdanoch, ac i gael gwell ansawdd bywyd.
Angie yw’r asiant cymunedol ar gyfer ardal Rhiwabon. Mae hi’n cynnal sesiynau galw heibio anffurfiol ar ddydd Iau cyntaf pob mis, rhwng 11am a 12pm. Mae croeso i chi ddod draw am sgwrs gyda hi am unrhyw ymholiadau sydd gennych. Nid oes angen gwneud apwyntiad.
Am ragor o wybodaeth, gallwch e-bostio ruaboncommunityagent@avow.org.
Mae Grwpiau Cyfeillgarwch yn ffyrdd gwych o atal ynysu ac unigrwydd. Maent yn cynnig cyfle i ddod o hyd i gwmni hefyd. Gall cyfeillion hefyd gynyddu ymdeimlad rhywun o berthyn a phwrpas, rhoi hwb i hapusrwydd a lleihau straen.
Wedi’i gynnal gan asiant cymunedol Rhiwabon, mae’r Grŵp Cyfeillgarwch yn dod at ei gilydd ar ddydd Iau cyntaf pob mis, rhwng 12 a 1pm.
Mae’n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n teimlo eu bod angen y cwmni neu sydd eisiau gwneud ffrindiau newydd. Mae’n amser i sgwrsio, rhannu atgofion a gwneud ffrindiau newydd dros baned.
I gael rhagor o fanylion am yr holl ddigwyddiadau a grybwyllir yma a mwy, ewch i’n tudalen digwyddiadau llyfrgelloedd. Fel arall, gallwch ffonio llyfrgell Rhiwabon ar 01978 822002 neu e-bostio ruabon.library@wrexham.gov.uk am ragor o wybodaeth.

