Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut y gallwch chi garu’ch amgylchedd ar Ddydd Sain Folant (14 Chwefror)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch "Fix It Feb" Caffi Trwsio Cymru
Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch “Fix It Feb” Caffi Trwsio Cymru
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Heart tree - love your environment this Valentine's Day
Sut y gallwch chi garu’ch amgylchedd ar Ddydd Sain Folant (14 Chwefror)
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror...
Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror…
Pobl a lle Y cyngor
Image from St David's Day Parade of group of children holding a Welsh flag
Wrecsam yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda rhaglen lawn yng nghanol y ddinas
Digwyddiadau Pobl a lle
EV charging
Gwefru rhatach ar gyfer cerbydau trydan i breswylwyr Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Sut y gallwch chi garu’ch amgylchedd ar Ddydd Sain Folant (14 Chwefror)
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Sut y gallwch chi garu’ch amgylchedd ar Ddydd Sain Folant (14 Chwefror)

Diweddarwyd diwethaf: 2026/02/13 at 10:41 AM
Rhannu
Darllen 9 funud
Heart tree - love your environment this Valentine's Day
RHANNU

Ar lan y môr mae rhosys cochion, ar lan y môr mae lilis gwynion, ar lan y môr rhowch heibio’ch llygredd, dim ond caru eich amgylchedd! (Ychydig yn gawslyd – rydyn ni’n gwybod).

Cynnwys
Poteli persawr a phersawr eillioBlodauCardiau ac anrhegionBwydDigwyddiad crefft ailgylchu ar ddod!Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwchYdych chi’n derbyn ein e-byst i’ch atgoffa am eich bin?

Mae Dydd San Ffolant yn prysur agosáu ar 14 Chwefror, ac er bod y diwrnod mwyaf rhamantus y flwyddyn yn ymwneud yn draddodiadol â dangos cariad tuag at bartneriaid, mae hefyd yn gyfle gwych i roi mwy o ofal i’r blaned hefyd.

Felly os ydych chi am ddangos cariad at eich amgylchedd, mae Cymru yn Ailgylchu wedi casglu awgrymiadau defnyddiol i’ch cael chi’n ailgylchu fel rhan o’ch rhamant. Dyma bedair ffordd o gymryd rhan…

Poteli persawr a phersawr eillio

Un o’r anrhegion mwyaf poblogaidd ar ddydd San Ffolant yw persawr. Os ydych chi’n derbyn potel o bersawr neu bersawr eillio ar Ddydd San Ffolant, cofiwch y gallwch ailgylchu’r botel pan fydd yn wag fel y gellir ei throi’n botel neu jar newydd.

Yn Wrecsam rydym yn casglu gwydr wrth ymyl y ffordd fel rhan o’n gwasanaeth ailgylchu wythnosol, felly cofiwch adael eich poteli ail-law yn eich blwch ailgylchu.

Blodau

Pwy sy’ ddim yn dwlu ar dusw newydd o flodau gan rywun annwyl? Os chi sy’n prynu, ceisiwch ddewis tusw gyda deunydd lapio cynaliadwy – mae digon o werthwyr blodau yn dewis papur lapio mwy cynaliadwy erbyn hyn, sy’n wych!

Er hyn, yn anffodus mae llawer o flodau hyfryd ddydd San Ffolant yn dal i gael eu lapio mewn seloffen plastig, ac nid ydym yn casglu hyn wrth ymyl y ffordd. Os oes gennych unrhyw ddeunydd lapio plastig mae nifer o siopau yn Wrecsam a fydd yn ei ailgylchu i chi. Os nad wyt ti’n siŵr os, sut, neu ymhle y galli ailgylchu eitem, galli edrych ar Leolydd Ailgylchu Cymru yn Ailgylchu yn https://walesrecycles.org.uk/cy/lleoliad-ailgylchu-1. Teipiwch ‘bagiau plastig a deunydd lapio’, yna rhowch eich cod post i ddod o hyd i’ch lleoedd agosaf.

Pan fydd eich blodau wedi gwywo gallwch naill ai eu hailgylchu fel rhan o’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd (os ydych wedi tanysgrifio), gallwch eu hailgylchu yn un o’r canolfannau ailgylchu yn Wrecsam, neu gallwch eu hychwanegu at eich tomen compost os oes gennych un.

Neu os ydych chi’n teimlo’n greadigol gallech chi eu sychu a’u defnyddio fel addurn cartref ystyrlon, neu sychu’r petalau i’w defnyddio fel conffeti neu mewn prosiect crefft.

Cardiau ac anrhegion

Wrth brynu cardiau a phapur lapio mae bob amser yn syniad da dewis rhai y gellir eu hailgylchu, oherwydd nid yw pob un yn anffodus.

Nid oes modd ailgylchu papur ffoil sgleiniog. Nid oes modd ailgylchu papur gyda glitr chwaith.

Mae’r rhan fwyaf o bapurau lapio sgleiniog eraill wedi eu lamineiddio, sy’n golygu nad oes modd eu hailgylchu nhw chwaith. Mae angen i chi hefyd ofalu i weld a oes gan y papur unrhyw ychwanegion plastig ac osgoi’r rhain.

Y newyddion da yw y dylai pob math arall o bapurau lapio a chardiau fod yn iawn i’w hailgylchu. Os ydych chi’n osgoi ffoil, glitr, papur wedi’i lamineiddio ac unrhyw ychwanegion plastig, dylech chi allu ailgylchu eich papur lapio a’ch cardiau pan fyddwch chi wedi gorffen gyda nhw.

Ond i fod yn onest, os oes gennych yr amser, beth am wneud eich cerdyn eich hun ar gyfer eich anwylyd? Gall fod yn llawer mwy ystyriol a phersonol rhoi cerdyn wedi’i wneud â llaw i rywun. Defnyddiwch eich creadigrwydd i ddod o hyd i wahanol eitemau o amgylch y cartref i’w addurno. Nid oes angen bob amser i chi wario arian ar bethau i ddangos eich cariad.

Bwyd

Ydych chi’n paratoi cinio rhamantus gartref? Mae bwytai mor brysur ar Ddydd San Ffolant, felly gall noson glyd gartre fod yn ddewis gwych.

Os ydych chi’n dewis coginio pryd o fwyd i’ch anwylyd gartref, cofiwch ailgylchu unrhyw wastraff bwyd sy’n codi wrth i chi wneud – esgyrn, plisgyn wyau, croen tatws ac ati. Os oes angen eich atgoffa’n gyflym o’r gwahanol bethau a all fynd yn eich cadi bwyd edrychwch ar hwn.

Neu os hoffech chi leihau’r amser rydych chi’n ei dreulio yn y gegin, mae tecawê yn ddewis gwych arall ar gyfer Dydd San Ffolant. Os ydych chi’n dewis pizza, gellir ailgylchu’r blwch cardfwrdd y daeth ynddo. Cofiwch sicrhau nad oes unrhyw grwst dros ben ynddo cyn ei roi yn y bin ailgylchu, a golchwch unrhyw botiau plastig o saws garlleg ac ailgylchu’r rheini hefyd.

Os ydych chi’n dewis tecawê Indiaidd neu Tsieineaidd, gall y cynwysyddion a’r potiau plastig y mae’r prydau hyn fel arfer yn dod ynddynt fod yn wych ar gyfer storio bwyd dros ben neu unrhyw eitemau bach sydd gennych yn gorwedd o amgylch y tŷ. Ond os oes gennych chi ddigon o flychau storio eisoes, gellir eu golchi allan a’u hailgylchu’n hawdd wrth ymyl y ffordd.

Os ydych chi’n gwneud eich tecawê eich hun – fel bargen bwyd San Ffolant o archfarchnad – bydd ambell beth gwahanol i’w ailgylchu. Mae cloriau cardfwrdd a deunydd pecynnu eraill yn syml i’w hailgylchu, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu unrhyw ‘ffenestri’ plastig seloffen o’r blwch ac ailgylchu hynny ar wahân. Dim ond golchi’r hambyrddau plastig a ffoil sydd ei angen eu rhoi yn yr ailgylchu, a chaniau cwrw a photeli gwin yn yr un modd.

Digwyddiad crefft ailgylchu ar ddod!

Dim ond rhai syniadau oedd hynny i ddangos sut y gallwch chi garu’ch amgylchedd fel rhan o Ddydd San Ffolant, ond cofiwch, mae angen ailgylchu drwy’r flwyddyn gron.

Mae ein Tîm Strategaeth Gwastraff yn cynnal digwyddiad galw heibio yn ystod hanner tymor yn y cwrt bwyd yn Tŷ Pawb ar 19 Chwefror, 11am – 2pm. Mae croeso i chi ddod â’r teulu draw i ddysgu sut y gallwch ailgylchu eitemau diangen fel llyfrau yn grefftau creadigol. Dewch draw i’n gweld ni os gallwch chi.

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Gwnewch ddefnydd o’r gwasanaeth ailgylchu wythnosol rydyn ni’n ei gynnig yn Wrecsam ac ailgylchu cymaint ag y gallwch. Yn anffodus, rydym yn dal i gael llawer o ddeunyddiau ailgylchadwy a gwastraff bwyd yn ein biniau sbwriel cyffredinol, a allai fod wedi cael eu hailgylchu’n hawdd wrth ymyl y ffordd. Chwaraewch eich rhan a’n helpu ni i wneud yn well.”

Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch

Os ydych yn cofrestru i dderbyn ein hysbysiadau e-bost ar Wybodaeth ac Argymhellion Ailgylchu, gallwn anfon ein straeon newyddion diweddaraf ac argymhellion i chi, er mwyn eich helpu i gael y mwyaf allan o’ch ailgylchu, cyngor lleol (gan gynnwys newidiadau sy’n effeithio arnoch chi), a manylion ar ymgyrchoedd sydd ar y gweill i chi gymryd rhan ynddynt.

Darllenwch fwy…

Ydych chi’n derbyn ein e-byst i’ch atgoffa am eich bin?

Pan fyddwch chi’n cofrestru i dderbyn y rhybuddion, fe fyddwch chi’n cael e-bost i’ch atgoffa cyn eich casgliad nesaf, ond mae hefyd yn ffordd dda i ni gysylltu â chi am unrhyw amhariadau allai effeithio ar y gwasanaeth. Os hoffech chi e-byst i’ch atgoffa am eich bin, cliciwch yma a dilynwch y ddolen i gofrestru.

Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED: ailgylchu, amgylchedd, environment, recycling
Rhannu
Erthygl flaenorol Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror... Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror…
Erthygl nesaf Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch "Fix It Feb" Caffi Trwsio Cymru Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch “Fix It Feb” Caffi Trwsio Cymru

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch "Fix It Feb" Caffi Trwsio Cymru
Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch “Fix It Feb” Caffi Trwsio Cymru
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Chwefror 13, 2026
Heart tree - love your environment this Valentine's Day
Sut y gallwch chi garu’ch amgylchedd ar Ddydd Sain Folant (14 Chwefror)
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Chwefror 13, 2026
Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror...
Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror…
Pobl a lle Y cyngor Chwefror 11, 2026
Image from St David's Day Parade of group of children holding a Welsh flag
Wrecsam yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda rhaglen lawn yng nghanol y ddinas
Digwyddiadau Pobl a lle Chwefror 10, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch "Fix It Feb" Caffi Trwsio Cymru
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch “Fix It Feb” Caffi Trwsio Cymru

Chwefror 13, 2026
Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror...
Pobl a lleY cyngor

Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror…

Chwefror 11, 2026
Image from St David's Day Parade of group of children holding a Welsh flag
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda rhaglen lawn yng nghanol y ddinas

Chwefror 10, 2026
EV charging
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Gwefru rhatach ar gyfer cerbydau trydan i breswylwyr Wrecsam

Chwefror 6, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English