Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Custom Craft Shapes yn torri llwybr newydd gyda chwmni Wrecsam CNC
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Custom Craft Shapes yn torri llwybr newydd gyda chwmni Wrecsam CNC
Pobl a lleY cyngor

Custom Craft Shapes yn torri llwybr newydd gyda chwmni Wrecsam CNC

Diweddarwyd diwethaf: Mai 28, 2026 11:19 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Custom Craft Shapes yn torri llwybr newydd gyda chwmni Wrecsam CNC
RHANNU

Mae Custom Craft Shapes wedi bod yn cyflenwi siapiau crefft o ansawdd uchel i fusnesau ac unigolion ledled y DU ers dros ddegawd. Gan ymateb i’r galw cynyddol gan gwmnïau lleol am gymorth gydag amrywiaeth ehangach o brosiectau gweithgynhyrchu, mae’r busnes wedi arallgyfeirio trwy lansio Wrecsam CNC, gan gynnig gwasanaethau llwybro a thorri laser dan reolaeth cyfrifiadur wedi’u teilwra i anghenion masnachol.

Mae’r ehangiad wedi cael ei gefnogi gan nifer o ddatblygiadau sylweddol, gan gynnwys cytundeb trwyddedu gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam, sy’n galluogi’r cwmni i gynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion gan ddefnyddio brandio swyddogol y clwb. Gan adeiladu ar y cyfle hwn, mae’r busnes yn ceisio cryfhau ei allu gweithgynhyrchu ymhellach trwy gyflwyno argraffu ‘uniongyrchol i wrthrych’ yn fewnol, a fyddai’n caniatáu iddo ehangu ei ystod o gynnyrch a gwella’r gwasanaethau sydd ar gael i gwsmeriaid.

Dywedodd y perchennog Steve Roberts:
“Mae arallgyfeirio i Wrecsam CNC eisoes wedi caniatáu i ni gefnogi busnesau lleol mewn ffyrdd newydd, wrth adeiladu ar yr enw da rydyn ni wedi’i ddatblygu dros y deng mlynedd diwethaf. Byddai cyflwyno argraffu uniongyrchol i wrthrych yn fewnol yn drobwynt mawr i ni, gan agor y drws i gynhyrchion newydd, marchnadoedd newydd a chyfleoedd twf yn y dyfodol.”

Wrth edrych ymlaen, mae disgwyl i’r gwasanaethau estynedig a ddarperir drwy Wrecsam CNC gefnogi twf busnes parhaus a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer datblygu sgiliau, gan gynnwys cyflwyno prentisiaethau posibl wrth i’r busnes ehangu.

Mae Custom Craft Shapes wedi gweithio’n agos gyda’r Tîm Busnes a Buddsoddi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sydd wedi rhoi arweiniad a chymorth wrth i’r cwmni ddatblygu ei gynlluniau arallgyfeirio ac archwilio cyfleoedd ar gyfer buddsoddiad a thwf yn y sir yn y dyfodol.

Dywedodd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol ar gyfer yr Economi, Busnes a Thwristiaeth, “Roedd yn bleser ymweld â Custom Craft Shapes a chyfarfod Steve a wnaeth fy nhywys o gwmpas ei weithdy a thrafod y cyfleoedd ar gyfer y dyfodol nawr bod ganddo drwydded gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam yn ogystal â’i gynlluniau gyda chynhyrchion newydd ar ei beiriant dan reolaeth cyfrifiadur i arallgyfeirio yn y dyfodol.”

Mae Custom Craft Shapes wedi’u lleoli yn Uned A, Canolfan Fusnes Bryn, Lôn y Bryn, Wrecsam LL13 9UT. 

Gallwch gysylltu â nhw naill ai dros y ffôn: 01978 661174, neu drwy e-bost: Info@customcraftshapes.co.uk.

Rhannu
Erthygl flaenorol Dylunwyr ifanc yn cael eu dathlu mewn cystadleuaeth arwyddion atal baw cŵn Dylunwyr ifanc yn cael eu dathlu mewn cystadleuaeth arwyddion atal baw cŵn
Erthygl nesaf Illegal vapes seizure Cyrch parhaus ar werthu tybaco a fêps anghyfreithlon yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Elevate Conference
Cynhadledd Am Ddim Dyrchafu eich Busnes yn Wrecsam yn Dychwelyd 6 Tachwedd
Digwyddiadau
Medi 30, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle

Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam

Medi 29, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English