Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dylunwyr ifanc yn cael eu dathlu mewn cystadleuaeth arwyddion atal baw cŵn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Dylunwyr ifanc yn cael eu dathlu mewn cystadleuaeth arwyddion atal baw cŵn
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Dylunwyr ifanc yn cael eu dathlu mewn cystadleuaeth arwyddion atal baw cŵn

Diweddarwyd diwethaf: Mai 28, 2026 8:59 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Dylunwyr ifanc yn cael eu dathlu mewn cystadleuaeth arwyddion atal baw cŵn
RHANNU

Mae enillwyr y gystadleuaeth ‘Dylunio Arwydd’ atal baw cŵn wedi cael eu dathlu mewn noson wobrwyo arbennig yn siambr y maer.

Gwahoddodd y gystadleuaeth ddisgyblion ysgolion cynradd o bob rhan o Wrecsam i greu dyluniadau lliwgar, trawiadol sy’n atgoffa perchnogion cŵn i lanhau baw eu cŵn a helpu i gadw ein cymunedau lleol yn lân a chroesawgar.

Cafodd y dyluniadau buddugol eu dewis o geisiadau a gyflwynwyd gan ysgolion ledled y fwrdeistref, gyda’r disgyblion llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfarfod y cyn-Faer Tina Mannering a mynychu noson wobrwyo arbennig yn siambr y maer.

Lansiwyd y gystadleuaeth i annog plant i rannu neges bwysig mewn ffordd greadigol, wrth helpu i godi ymwybyddiaeth o’r effaith y gall baw cŵn ei chael ar fannau cyhoeddus.

Bydd y dyluniadau buddugol nawr yn cael eu troi’n arwyddion go iawn, a fydd yn cael eu gosod o amgylch cymunedau lleol i atgoffa perchnogion cŵn i wneud y peth iawn.

Enillwyr

Lottie Williams-Roberts, 7 oed, Ysgol Gynradd Parc Borras

Cynan Jones, 7 oed, Llanarmon Dyffryn Ceiriog

Emilia Mackenzie, 7 oed, Ysgol y Parc

Leo O’Halloran, 7 oed, Ysgol Rhos-ddu

Tilly Owen, 10 oed, Ysgol y Santes Fair, Owrtyn

Makanaka Mahohoma, 8 oed, Ysgol Clawdd Wat

Halli Hughes, 8 oed, Ysgol Bro Alun

Jackson Evans, 9 oed, Ysgol Cefn Mawr

Ava Canning, 8 oed, Ysgol Maes y Mynydd

Eliza Mary Bellis, 11 oed, Ysgol Plas Coch

Amelia Jones, 10 oed, Ysgol yr Hafod

Ava Daltry, 9 oed, Ysgol y Waun

Mae baw cŵn yn parhau i fod yn fater sy’n effeithio ar gymunedau ledled Wrecsam, bydd yr arwyddion hyn yn helpu i rannu neges syml ond pwysig; codwch faw eich ci.

Rhannu
Erthygl flaenorol Mayor of Wrexham Councillor Jeremy Kent Dyma gyflwyno’r Maer newydd: Y Cynghorydd Jeremy Kent
Erthygl nesaf Custom Craft Shapes yn torri llwybr newydd gyda chwmni Wrecsam CNC Custom Craft Shapes yn torri llwybr newydd gyda chwmni Wrecsam CNC

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English