Mae Custom Craft Shapes wedi bod yn cyflenwi siapiau crefft o ansawdd uchel i fusnesau ac unigolion ledled y DU ers dros ddegawd. Gan ymateb i’r galw cynyddol gan gwmnïau lleol am gymorth gydag amrywiaeth ehangach o brosiectau gweithgynhyrchu, mae’r busnes wedi arallgyfeirio trwy lansio Wrecsam CNC, gan gynnig gwasanaethau llwybro a thorri laser dan reolaeth cyfrifiadur wedi’u teilwra i anghenion masnachol.
Mae’r ehangiad wedi cael ei gefnogi gan nifer o ddatblygiadau sylweddol, gan gynnwys cytundeb trwyddedu gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam, sy’n galluogi’r cwmni i gynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion gan ddefnyddio brandio swyddogol y clwb. Gan adeiladu ar y cyfle hwn, mae’r busnes yn ceisio cryfhau ei allu gweithgynhyrchu ymhellach trwy gyflwyno argraffu ‘uniongyrchol i wrthrych’ yn fewnol, a fyddai’n caniatáu iddo ehangu ei ystod o gynnyrch a gwella’r gwasanaethau sydd ar gael i gwsmeriaid.
Dywedodd y perchennog Steve Roberts:
“Mae arallgyfeirio i Wrecsam CNC eisoes wedi caniatáu i ni gefnogi busnesau lleol mewn ffyrdd newydd, wrth adeiladu ar yr enw da rydyn ni wedi’i ddatblygu dros y deng mlynedd diwethaf. Byddai cyflwyno argraffu uniongyrchol i wrthrych yn fewnol yn drobwynt mawr i ni, gan agor y drws i gynhyrchion newydd, marchnadoedd newydd a chyfleoedd twf yn y dyfodol.”
Wrth edrych ymlaen, mae disgwyl i’r gwasanaethau estynedig a ddarperir drwy Wrecsam CNC gefnogi twf busnes parhaus a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer datblygu sgiliau, gan gynnwys cyflwyno prentisiaethau posibl wrth i’r busnes ehangu.
Mae Custom Craft Shapes wedi gweithio’n agos gyda’r Tîm Busnes a Buddsoddi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sydd wedi rhoi arweiniad a chymorth wrth i’r cwmni ddatblygu ei gynlluniau arallgyfeirio ac archwilio cyfleoedd ar gyfer buddsoddiad a thwf yn y sir yn y dyfodol.
Dywedodd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol ar gyfer yr Economi, Busnes a Thwristiaeth, “Roedd yn bleser ymweld â Custom Craft Shapes a chyfarfod Steve a wnaeth fy nhywys o gwmpas ei weithdy a thrafod y cyfleoedd ar gyfer y dyfodol nawr bod ganddo drwydded gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam yn ogystal â’i gynlluniau gyda chynhyrchion newydd ar ei beiriant dan reolaeth cyfrifiadur i arallgyfeirio yn y dyfodol.”
Mae Custom Craft Shapes wedi’u lleoli yn Uned A, Canolfan Fusnes Bryn, Lôn y Bryn, Wrecsam LL13 9UT.
Gallwch gysylltu â nhw naill ai dros y ffôn: 01978 661174, neu drwy e-bost: Info@customcraftshapes.co.uk.




