Bydd llawer ohonoch chi wedi treulio amser yn eich gardd dros yr wythnos ddiwethaf, tra bod yr haul wedi bod yn tywynnu. Mae hi wedi bod yn hyfryd o ran y tywydd, ac os na wnaethoch chi gofrestru ar gyfer ein casgliadau gwastraff gardd yn gynharach eleni, efallai eich bod chi wedi ailfeddwl ychydig.
Efallai bod eich gwair yn tyfu ychydig yn hirach nag ydych chi am iddo dyfu, efallai bod ychydig o chwyn yn torri trwodd, ac efallai bod angen tocio darnau eraill o amgylch eich gardd.
Os yw hynny’n wir, yna peidiwch â phoeni! Gallwch chi gofrestru i dderbyn ein casgliadau gwastraff gardd ar unrhyw adeg yn y flwyddyn. Ond po gynharaf y byddwch chi’n ymuno, y mwyaf o gasgliadau y byddwch chi’n eu cael.
Mae’r tâl wedi ei rewi ar £35 y bin ac mae’r gwasanaeth yn rhedeg o’r dyddiad y byddwch chi’n cofrestru hyd at 31 Mawrth, 2027 – yn syml, mae’n well cofrestru cyn gynted â phosibl er mwyn cael y gwerth gorau.
Felly os ydych chi’n ymuno cyn bo hir, byddech chi’n dal i gael gwerth tua 10 mis o gasgliadau.
Sut ydw i’n talu?
Y ffordd hawsaf o dalu am y gwasanaeth yw drwy ymweld â’r dudalen gwastraff gardd ar ein gwefan. Gall ffrind neu berthynas danysgrifio ar-lein ar eich rhan. Rhaid bod gennych gyfeiriad e-bost i danysgrifio ar-lein.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Gall unrhyw breswylwyr a hoffai gael ychydig o gymorth i wneud taliad ar-lein ymweld â Galw Wrecsam yn Llyfrgell Wrecsam, neu gallwch alw heibio eich swyddfa ystâd dai leol.
“Rhowch wybod i’n staff eich bod am dalu am eich casgliadau gwastraff gardd a byddant yn eich helpu drwy’r broses, a gallant hyd yn oed eich helpu i greu cyfeiriad e-bost os nad oes un gennych. Os nad oes un gennych, gallwch ffonio Strydlun ar 01978 298989 i dalu â cherdyn.”
Dim sticeri bin
Fel yn y flwyddyn flaenorol, ni fyddwn yn anfon sticeri bin fel rhan o’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd. Yn hytrach, byddwn yn defnyddio ein system logistaidd i nodi eiddo sydd wedi talu am y gwasanaeth diweddaraf. Rydym yn argymell i chi arddangos eich enw neu rif eich tŷ ar eich bin gwyrdd i’w gwneud hi’n haws i ni baru’ch bin yn erbyn y manylion ar ein system.
Telerau ac Amodau
Mae telerau ac amodau wedi’u diweddaru ar gael ar ein gwefan. Gan na fyddwn bellach yn anfon sticeri bin, ni fyddwn yn anfon copïau papur o’r telerau a’r amodau. Gallwch gasglu copi papur mewn person o Galw Wrecsam.
Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch
Os ydych yn cofrestru i dderbyn ein hysbysiadau e-bost ar Wybodaeth ac Argymhellion Ailgylchu, gallwn anfon ein straeon newyddion diweddaraf ac argymhellion i chi, er mwyn eich helpu i gael y mwyaf allan o’ch ailgylchu, cyngor lleol (gan gynnwys newidiadau sy’n effeithio arnoch chi), a manylion ar ymgyrchoedd sydd ar y gweill i chi gymryd rhan ynddynt.
Ydych chi’n derbyn ein e-byst i’ch atgoffa am eich bin?
Pan fyddwch chi’n cofrestru i dderbyn y rhybuddion, fe fyddwch chi’n cael e-bost i’ch atgoffa cyn eich casgliad nesaf, ond mae hefyd yn ffordd dda i ni gysylltu â chi am unrhyw amhariadau allai effeithio ar y gwasanaeth. Os hoffech chi e-byst i’ch atgoffa am eich bin, cliciwch yma a dilynwch y ddolen i gofrestru.
Glanhau’r tŷ’n drylwyr? Peidiwch ag anghofio am y Siop Ailddefnyddio – Newyddion Cyngor Wrecsam




