Daeth pobl yn Wrecsam at ei gilydd yn Nhŷ Pawb ddydd Llun, 5 Hydref 5 i fynd i ddangosiad ffilm i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r argyfwng hinsawdd a natur mawr sy’n wynebu’r DU.
Cafodd The People’s Emergency Briefing ei rhyddhau ym mis Ebrill eleni ac mae’n cael ei dangos mewn cymunedau, gweithleoedd, cynghorau, sinemâu a lleoliadau eraill ledled y wlad.
Cafodd y 100 tocyn a gynigiwyd ar gyfer y digwyddiad cyhoeddus am ddim yn Nhŷ Pawb eu prynu’n gyflym, ac oherwydd y galw rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y ffilm yn cael ei dangos eto ddydd Sadwrn, 17 Hydref (manylion archebu llawn isod).
Fe wnaethon ni siarad â rhai aeth i weld y ffilm wrth iddynt adael y dangosiad ar 5 Hydref, ac fe wnaethon nhw siarad yn frwd am y negeseuon pwysig yn y ffilm. Edrychwch ar eu sylwadau yn y fideo isod…
“Pan fo cymunedau’n dod at ei gilydd, maen nhw’n gallu gwneud gwahaniaeth”
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd David A Bithell, sy’n arwain ymateb y Cyngor i’r newid yn yr hinsawdd: “Mae’n wych yr aeth cynifer o bobl i’r dangosiad cyhoeddus ar 5 Hydref, ac mae’r galw am ail ddigwyddiad yn dangos bod yr argyfwng hinsawdd a natur o bwys mawr i bobl yn Wrecsam. Pan fo cymunedau’n dod at ei gilydd, maen nhw’n gallu gwneud gwahaniaeth.
“Mae angen i newid ddigwydd, ac mae angen iddo ddigwydd yn gyflym. Mae’n fater byd-eang, ond mae pawb yn gallu chwarae eu rhan. Os nad ydym yn gwneud hynny, ein cymunedau a’n cenedlaethau’r dyfodol fydd yn ysgwyddo’r canlyniadau.
“Mae’r ffilm yn creu argraff fawr – mae’n ddiddorol, yn addysgiadol ac yn ysbrydoli, ac mae’n bosib y bydd yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi byth yn eu gwylio. Os na lwyddoch chi i weld y dangosiad cyntaf, ceisiwch sicrhau lle yn Nhŷ Pawb ddydd Sadwrn, 17 Hydref.”
Cadwch eich lle ar gyfer 17 Hydref
Cynhelir ail ddangosiad cyhoeddus ddydd Sadwrn, 17 Hydref yn Nhŷ Pawb yng nghanol dinas Wrecsam. Drysau’n agor am 2pm gyda’r ffilm yn dechrau am 2.30pm Mae croeso i bawb.
Archebwch eich tocynnau am ddim nawr
Mae’r ffilm yn seiliedig ar sesiwn friffio arwyddocaol a gynhaliwyd yn San Steffan, lle cyflwynodd arbenigwyr blaenllaw o’r DU dystiolaeth i fwy na 1,200 o wleidyddion, arweinwyr busnes a ffigurau dylanwadol eraill.
Wedi’i chyflwyno gan Chris Packham, mae’n archwilio amrywiaeth o faterion gan gynnwys:
- Newid hinsawdd a thywydd eithafol.
- Colli natur a dirywiad bioamrywiaeth.
- Diogeledd bwyd.
- Iechyd y cyhoedd.
- Gwydnwch seilwaith.
- Yr economi.
- Diogelwch cenedlaethol.
The People’s Emergency Briefing
Dydd Sadwrn 17 Hydref
Drysau 2pm
Tŷ Pawb, Wrecsam LL13 8BB
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws – Newyddion Cyngor Wrecsam
Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch.


