Pryd: Dydd Gwener 7 Mehefin 10am- 4 pm, Ble: Llwyn Isaf, Cost: AM DDIM
Bydd Llwyn Isaf yn llawn cyffro pan sefydlir Pentref Taith Prydain Merched i ategu at ddigwyddiad y brif ras.
Y prif atyniad fydd tîm BMX anhygoel a fydd yn sicr o’ch diddanu. Bydd y beicwyr yn hedfan drwy’r awyr yn perfformio triciau a champau syfrdanol – yn union fel yr hyn a welwch ar y teledu!
Tîm Campau BMX – Cip o’r hyn y gellir ei ddisgwyl!
Amazing BMX Stunt Show
Cllr Nigel Williams, Lead Member for Economy and Regeneration, said, “This is an amazing stunt show and certainly one I’m looking forward to seeing. The Tour of Britain Women promises to be an exciting event and officers are working hard to ensure that people of all ages are able to have a great time between the start and finish of the race in the city centre.
“Along the route if you can’t make it to the city centre please show your support and give them a warm Wrexham welcome.”
Sioe Gampau BMX anhygoel
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Bydd y sioe gampau’n anhygoel ac rwy’n edrych ymlaen. Mae Taith Prydain Merched yn addo bod yn ddigwyddiad cyffrous ac mae’r swyddogion yn gweithio’n galed i sicrhau bod pawb yn cael amser gwych rhwng dechrau a diwedd y ras yng nghanol y ddinas.
“Ar hyd y daith, os na allwch ddod i ganol y ddinas, dangoswch eich cefnogaeth a rhowch groeso cynnes Wrecsam iddynt”.
Beth arall y gallaf ei wneud ym Mhentref Taith Prydain Merched?
- Bydd Beicio Cymru yn darparu gweithgareddau beicio i’r cyhoedd roi cynnig arnynt.
- Bydd e-feiciau ar gael i roi cynnig arnynt.
- Bydd ein Tîm Chwarae ar y safle gyda gemau ac offer chwarae aer
- Stondinau amrywiol gan gynnwys stondinau beicio swyddogol Taith Prydain
- Bydd stondinau gwybodaeth o wahanol adrannau CBSW a stondinau beicio swyddogol Taith Prydain.
Os ydych am ddod i ganol y ddinas ar gyfer y digwyddiad gwiriwch y trefniadau parcio a’r ffyrdd a fydd ar gau er mwyn sicrhau diogelwch pawb Gwybodaeth am ffyrdd ar gau a meysydd parcio yng nghanol y ddinas ar gyfer Taith Prydain Merched
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch