Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Amlygu gwaith coed Wrecsam fel arfer da ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Amlygu gwaith coed Wrecsam fel arfer da ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Y cyngor

Amlygu gwaith coed Wrecsam fel arfer da ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 13, 2026 11:43 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Amlygu gwaith coed Wrecsam fel arfer da ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
RHANNU

Mae gwaith Cyngor Wrecsam i ddiogelu, plannu a chynllunio ar gyfer coed ar draws y fwrdeistref sirol wedi’i amlygu fel enghraifft o arfer da mewn astudiaeth achos rheoli asedau newydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Mae’r astudiaeth achos yn edrych ar sut mae’r cyngor a Phartneriaeth Coedwig Wrecsam yn defnyddio tystiolaeth, gweithio mewn partneriaeth a sut mae buddsoddiad wedi’i dargedu yn gwella brigdwf a seilwaith gwyrdd i gymunedau.

Mae’n cyfeirio at gastanwydden bêr boblogaidd Wrecsam ym Mharc Acton, a gafodd ei phleidleisio’n Goeden y Flwyddyn y DU yn 2023, ac yn tynnu sylw at ymrwymiad ehangach y cyngor i goed a choetir ar draws y fwrdeistref sirol.

Trwy ei Strategaeth Coed a Choetiroedd, mae’r cyngor wedi ymrwymo i darged i sicrhau bod gan Wrecsam o leiaf 20% o frigdwf trefol. Mae’r astudiaeth achos hefyd yn tynnu sylw at Archwiliad Seilwaith Gwyrdd y cyngor, a edrychodd ar dir sy’n eiddo i’r cyngor i nodi lleoliadau addas ar gyfer plannu coed ac ardaloedd lle gellid creu gwell cysylltiadau cynefinoedd.

Mae Partneriaeth Coedwig Wrecsam yn dwyn ynghyd sefydliadau gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Coed Cadw, Cymdeithas Byd Natur Gogledd Cymru, Cadwch Gymru’n Daclus, Llais y Goedwig, Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru, AVOW a Phrifysgol Wrecsam, wedi’u cydlynu gan y cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor a hyrwyddwr Bioamrywiaeth ac Ecoleg, “Mae’r gydnabyddiaeth hon yn gymeradwyaeth gref o ymrwymiad Wrecsam i fioamrywiaeth, ecoleg a seilwaith gwyrdd.”

“Mae coed a choetir yn chwarae rhan hanfodol wrth greu cynefinoedd, cefnogi bywyd gwyllt a chysylltu mannau gwyrdd ar draws y fwrdeistref sirol. Trwy gymryd dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gallwn sicrhau bod y gwaith hwn o fudd i’r cymunedau sydd ei angen fwyaf, tra’n diogelu a gwella natur ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Y gaeaf diwethaf, plannodd Cyngor Wrecsam, gyda chefnogaeth Partneriaeth Coedwig Wrecsam, dros 9,000 o goed ar draws y fwrdeistref sirol. Gyda chefnogaeth cyllid gan Gronfa Coed Argyfwng Coed Cadw, Trees for Cities, Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, canolbwyntiodd y rhaglen blannu ar ardaloedd blaenoriaeth gyda llai o frigdwf  a Sgoriau Ecwiti Coed gwael.

Ychwanegodd y Cynghorydd Mark Pritchard, “Mae’n wych gweld gwaith Wrecsam yn cael ei gydnabod fel enghraifft o arfer da. Mae coed a mannau gwyrdd yn chwarae rôl mor bwysig wrth gefnogi natur, gwella ansawdd aer, lleihau’r perygl o lifogydd a chreu lleoedd iachach i’n cymunedau.”

“Mae gwaith Partneriaeth Coedwig Wrecsam yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau’n gweithio gyda’i gilydd, gan ddefnyddio tystiolaeth i sicrhau bod plannu coed yn digwydd lle bydd y budd mwyaf.”

Mae Cyngor Wrecsam wedi ennill statws Dinas Coed y Byd am dair blynedd yn olynol, dynodiad rhyngwladol sy’n gofyn am ymrwymiad amlwg i gynllunio, plannu, cynnal a chadw a dathlu’r goedwig drefol.

Rhannu
Erthygl flaenorol barbecue cooking in warm weather Ydych chi’n cael barbeciw yn yr haul? Cofiwch ailgylchu bob amser
Erthygl nesaf Dangos sut i dorri ffrwythau a llysiau mewn dosbarth coginio Cynllun grantiau bach Partneriaeth Bwyd Wrecsam ar agor ar gyfer ceisiadau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English