Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Diweddarwyd diwethaf: Medi 25, 2026 9:48 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Recycling
RHANNU

Rydym am atgoffa ein trigolion bod yr amseroedd cau yn newid i oriau’r gaeaf ym mis Hydref mewn dwy o’r canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.

Cynnwys
  • Syniadau ar gyfer ymweld â’r canolfannau ailgylchu
    • Didolwch eich ailgylchu cyn gadael
    • Dewch â dull adnabod gyda chi bob amser
    • Dim deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y sgip gwastraff cyffredinol
    • Unrhyw beth i’w ailddefnyddio?

O fis Hydref, bydd canolfannau ailgylchu Y Lodge, Brymbo a Phlas Madog yn cau yn gynharach am 4pm. Mae’r oriau gaeaf hyn yn parhau tan fis Mawrth 2027.

Nid yw canolfan ailgylchu Lôn y Bryn yn newid ei hamseroedd gweithredu ar gyfer y gaeaf ac mae’n cau am 8pm drwy gydol y flwyddyn.

Mae amseroedd agor llawn i’w gweld isod.

Lôn y Bryn, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam LL13 9UT

Oriau agor: 8am – 8pm trwy gydol y flwyddyn

Y Lodge, Brymbo, Wrecsam LL11 5NR

Oriau agor:

  • Mis Mawrth 9am – 6pm
  • Mis Ebrill tan Awst 9am – 8pm
  • Mis Medi 9am – 6pm
  • Mis Hydref tan Chwefror 9am – 4pm

Banc Wynnstay, Plas Madoc, Wrecsam LL14 3ES

Oriau agor:

  • Mis Mawrth 9am – 6pm
  • Mis Ebrill tan Awst 9am – 8pm
  • Mis Medi 9am – 6pm
  • Mis Hydref tan Chwefror 9am – 4pm

Mae’r tair canolfan ailgylchu ar agor bob dydd ac eithrio Dydd Nadolig.

Syniadau ar gyfer ymweld â’r canolfannau ailgylchu

Didolwch eich ailgylchu cyn gadael

Didolwch y deunyddiau gwahanol cyn i chi deithio i’ch canolfan ailgylchu lleol, er mwyn sicrhau eu bod yn barod i’w taflu’n syth i’r baeau cywir. Dyma un o’r prif ffyrdd y gallwch ein helpu.

Os na fyddwch chi’n didoli eich ailgylchu cyn i chi gyrraedd, byddwch ar y safle’n hirach nag sydd angen a bydd hyn yn arafu eich ymweliad.

Dewch â dull adnabod gyda chi bob amser

Dim ond preswylwyr Wrecsam gaiff ddefnyddio ein canolfannau ailgylchu, felly pan fyddwch chi’n cyrraedd y safleoedd, gofynnir i chi ddangos dull adnabod i ni fod yn sicr eich bod yn byw yn lleol.

Cofiwch ddod â rhywbeth gyda chi i ni ei wirio a’i fod wrth law er mwyn cyflymu’r broses.

Dim deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y sgip gwastraff cyffredinol

Os byddwch chi’n dod ag unrhyw fagiau du i’r canolfannau ailgylchu, sicrhewch fod unrhyw boteli plastig, caniau ac ati sydd wedi cael eu rhoi ynddynt mewn camgymeriad yn cael eu tynnu allan ac yn cael eu rhoi gyda’ch ailgylchu ymyl palmant, neu mae modd iddynt gael eu hailgylchu yn y banciau ailgylchu yn y ganolfan ailgylchu.

Unrhyw beth i’w ailddefnyddio?

Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu; siaradwch gydag un o’n cynorthwywyr a fydd yn eich cyfeirio i’r man cywir.

Gallwch ddarganfod mwy am ymweld â’r canolfannau ailgylchu ar ein gwefan.

Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:ailgylchucanolfan ailgylchurecyclingrecycling centres
Rhannu
Erthygl flaenorol Ysgol I D Hooson Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English