Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Arweinlyfr yn ysbrydoli prosiect dementia yn cael ei arddangos yng Nghastell y Waun
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Arweinlyfr yn ysbrydoli prosiect dementia yn cael ei arddangos yng Nghastell y Waun
Pobl a lle

Arweinlyfr yn ysbrydoli prosiect dementia yn cael ei arddangos yng Nghastell y Waun

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 22, 2026 10:16 am
Rhannu
Darllen 3 funud
tapestry
RHANNU

Mae’r grŵp lleol, Wrecsam sy’n Deall Dementia, bob amser yn chwilio am ffyrdd o rannu’r neges am Ddementia, codi ymwybyddiaeth a chynorthwyo’r sawl sy’n byw gyda’r clefyd, a’u gofalwyr.

Yn anffodus, collodd un aelod o’r grŵp ac artist lleol, Margaret Roberts, ei chwaer i ddementia, ond ysbrydolodd darganfyddiad siawns ymhlith eiddo ei chwaer brosiect sydd wedi dod â phobl â’r clefyd, ynghyd â gofalwyr a chefnogwyr, at ei gilydd.

Roedd chwaer Margaret hefyd yn arlunydd ac ymhlith ei phethau daeth o hyd i ganllaw i Dapestri Bayeaux – y brodwaith canoloesol sy’n croniclo’r digwyddiadau a arweiniodd at Frwydr Hastings. Ac felly… dechreuodd y prosiect.

Ymunodd Wrecsam sy’n Deall Dementia â Margaret fel rhan o’u grŵp celf wythnosol, cynhwysol, lle mae pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr yn gallu cymryd rhan mewn celf, gyda chymorth ac offer wedi’i ddarparu, heb unrhyw gost.

Heriwyd y grŵp hwn, ynghyd â dau arall y mae Margaret yn gweithio gyda nhw, i ail-greu’r tapestri mewn celf gyda phob aelod o’r grŵp yn peintio o leiaf un adran.

Yn falch o’r gwaith ei hun a phawb a gymerodd ran, penderfynwyd y dylid arddangos y cynnyrch gorffenedig – camp fawr am rywbeth mor hir – a chynigiodd Castell y Waun ystafell, sydd bellach wedi’i llenwi gan y gwaith celf ac sy’n cael ei arddangos i unrhyw un fynd i’w weld.

Dywedodd y Cynghorydd Frank Hemmings, cydlynydd y prosiect: “Mae celf yn allfa profedig, iach i’r rhai sy’n byw gyda dementia ac rydym mor ffodus i gael Margaret Roberts fel rhan o’n grŵp. Aeth llawer o’i hamser i mewn i’r trefnu a rhoi’r cymorth angenrheidiol, ac rydym i gyd mor falch o’r canlyniadau.

“Mae’r gwaith celf wedi cael derbyniad da iawn ac mae disgwyl iddo gael ei arddangos yng Nghastell y Waun am y misoedd nesaf, felly byddwn yn annog cymaint o bobl â phosibl i ddod i’w weld ac i ledaenu’r gair am y cymorth sydd ar gael i’r rhai sy’n byw gyda dementia, yn ogystal â’u gofalwyr.”

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, yr aelod arweiniol dros ofal cymdeithasol oedolion: “Mae Wrecsam sy’n Deall Dementia yn grŵp pwysig iawn, sy’n gweithio i gynyddu ymwybyddiaeth o ddementia ac yn cynnig cymorth a chefnogaeth lle bo hynny’n bosibl. Maent hefyd yn gweithio gyda phobl a busnesau lleol fel rhan o Cyfeillion Dementia.

Mae Cyfaill Dementia yn rhywun sy’n dysgu mwy am ddementia a’r ffyrdd y maent yn gallu gwneud newidiadau bach yn eu cymunedau i leihau teimladau o ynysu sy’n cael eu teimlo mor aml gan y rhai sy’n byw gyda’r clefyd. Rwyf hefyd yn falch o ddweud bod Cyngor Wrecsam yn sefydliad Cyfeillion Dementia.”

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Dewch o hyd i yrfa newydd gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf… Dewch o hyd i yrfa newydd gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Erthygl nesaf Estyn Erlyniad ar ôl i gerbyd gael ei adael

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle

Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam

Medi 29, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English