Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair i Glwb Pêl-Droed Wrecsam gan fod Penawdau’r Telerau rhwng y clwb a’r Cyngor wedi cael ei arwyddo.
Mae’r Telerau yn ymwneud â phrydles posibl yn y dyfodol i gael tir er mwyn sefydlu safle hyfforddi ar dir hen ysgol Groves.
Bydd unrhyw brydles yn y dyfodol yn destun caniatâd cynllunio priodol a thynnu unrhyw gyfamodau cyfyngol ar y tir.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Mae dod o hyd i gyfleuster hyfforddi newydd ar gyfer y clwb wedi bod yn angenrheidiol ers colli Parc y Glowyr ychydig flynyddoedd yn ôl. Ar hyn o bryd mae’r chwaraewyr yn hyfforddi ar safle Nine Acre ond mae’r clwb angen cyfleuster pwrpasol a chynaliadwy gyda chaeau o safon uchel er mwyn gwneud y mwyaf o’u perfformiad ar y cae a diogelu eu dyfodol.
Bydd y cyfleuster yn galluogi i Glwb Pêl-Droed Wrecsam adeiladu ar ei bortffolio presennol o waith yn y gymuned ac ysgolion lleol er mwyn darparu cyfleoedd allweddol ar gyfer cenedlaethau o bêl-droedwyr Wrecsam yn y dyfodol.
Dywedodd Ian Bancroft y Prif Weithredwr: “Roeddwn yn falch iawn bod Penawdau’r Telerau’n cael eu harwyddo ac edrychaf ymlaen at glywed cynnydd pellach ar y mater hwn.”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Spencer Harris a Bwrdd y Cyfarwyddwyr am weithio mewn partneriaeth gyda ni ar y cynigion hyn.”
“Buddion i CDP Wrecsam a chenedlaethau o chwaraewyr yn y dyfodol”
Meddai Spencer Harris, Cyfarwyddwr CPD Wrecsam: “Yn dilyn derbyn cefnogaeth ein haelodau, mae’n braf gweld y cynigion hyn yn datblygu a chael gweithio gyda Chyngor Wrecsam er budd dyfodol y Clwb Pêl-Droed a’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr. Mae yna lawer o waith i’w wneud eto ond mae hwn yn gam arwyddocaol ar ein taith i gael ein cyfleusterau hyfforddiant ein hunain unwaith eto.”
YMGEISIWCH RŴAN